CLILC

 

Prosiect gwella ymgysylltu a landlordiaid preifat

Mae 15% o gartrefi Cymru yn perthyn i landlordiaid preifat bellach, a bydd cymaint o gartrefi preifat â thai cymdeithasol ar osod cyn bo hir. Er bod landlordiaid preifat yn bartneriaid pwysig i fyd llywodraeth leol, mae tuedd i’w hesgeuluso, ond mae rôl hanfodol iddyn nhw o ran atal digartrefedd a chynnig tai o safon y caiff teuluoedd eu prynu neu eu rhentu.  

Un o flaenoriaethau WLGA ers tro bellach yw gwella ansawdd a fforddiadwyedd cartrefi mae landlordiaid preifat yn eu cynnig, a hynny trwy brosiect gwella cysylltiadau â landlordiaid o’r fath. Prif nod y prosiect yw helpu awdurdodau lleol i feithrin perthynas â landlordiaid preifat a gwella ansawdd a fforddiadwyedd cartrefi maen nhw’n eu cynnig. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn hollbwysig i lwyddiant y prosiect trwy ei ariannu.

Dechreuodd y prosiect yn 2009 ac mae wedi cyflawni nifer o orchwylion megis:

  • Llunio pecyn i helpu awdurdodau lleol i’w hasesu eu hunain
  • Cydweithio â chynghorwyr a staff pob awdurdod i’w helpu i ddeall rôl landlordiaid preifat, paratoi cynllun corfforaethol i wella’r cysylltiadau â nhw a’i roi ar waith
  • Llunio templedi a chanllawiau i helpu i wella’r cysylltiadau hynny, gan gynnwys paratoi cynlluniau ymgysylltu â landlordiaid preifat
  • Tynnu sylw at arferion effeithiol
  • Tynnu sylw at gyhoeddiadau o bwys sydd ar y we

Mae rhagor o wybodaeth gan: Jim McKirdle

https://wlga.cymru/prs-improvement-project