CLILC

 

Cynhadledd Flynyddol CLlLC 2025

Cadwch eich Cysylltiad

Archifau

 Postiwyd gan WLGA 30/01/2025

18/06/2025



Graddiwch y cynnwys yma 0 Pleidleisiau

Ffurflen Archebu i Gynrychiolwyr - Cliciwch yma

 

Bydd Cynhadledd Flynyddol CLlLC 2025 – y digwyddiad mwyaf yng nghalendr llywodraeth leol Cymru – yn digwydd wyneb yn wyneb yn Venue Cymru (Llandudno) ar 18 a 19 Mehefin.

 

Mae’r gynhadledd hon – a fydd yn digwydd bron i flwyddyn wedi Etholiad Cyffredinol y DU, a llai na blwyddyn cyn Etholiad Senedd Cymru yng ngwanwyn 2026 – yn argoeli i fod yn un o ddigwyddiadau sector cyhoeddus pwysicaf 2025.

 

Byddwn yn clywed gan wleidyddion blaenllaw o lywodraeth leol a chenedlaethol, ynghyd â chynrychiolwyr o’r byd academaidd, busnes a’r trydydd sector. Bydd hwn yn gyfle euraidd i rwydweithio gyda ffigyrau allweddol o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector.

 

Amseroedd (fe allan nhw newid)

 

Dydd Mercher 18 Mehefin

13:00 Dechrau’r Gynhadledd

16:30 Diwedd Diwrnod 1

18:00-19:00 Derbyniad y Gynhadledd (Venue Cymru)

 

Dydd Iau 19 Mehefin

09:30 Dechrau Diwrnod 2

17:00 Diwedd Diwrnod 2

19:30 Swper y Gynhadledd

 

Llety

Mae CLlLC wedi cadw llety ar gyfer uwch-swyddogion a siaradwyr yn unig – bydd ar bawb arall angen trefnu eu llety eu hunain. Ceir dewis da iawn o westai am brisiau gwahanol o fewn pellter cerdded i Venue Cymru.


 
Venue Cymru, Promenade, Llandudno, LL30 1BB

https://wlga.cymru/wlga-annual-conference-2025