CLILC

 

Maniffesto CLlLC ar gyfer Lleoliaeth

Mae cynghorau wedi dangos hyblygrwydd, arloesedd, cadernid ac ymatebolrwydd yn ystod pandemig COVID. Mae’r argyfwng wedi dangos gallu cynghorau i ymateb ac wedi cadarnhau pwysigrwydd sybsidiaredd a lleoliaeth, gydag aelodau etholedig a’r gweithlu â’u gwreiddiau’n ddwfn yn eu cymunedau lleol. 

 

Dyma pam ein bod yn gwthio maniffesto mentrus ar gyfer lleoliaeth cyn etholiadau’r Senedd, gan nodi ein blaenoriaethau i gyflawni canlyniadau gwell a mwy cynaliadwy ar gyfer ein cymunedau.

 

Gall canolbwyntio ar wasanaethau ataliol, gyda mwy o hyblygrwydd i ymateb i anghenion lleol, alluogi cynghorau i:

 

  • hyrwyddo lles ac annog cymunedau iach, cynaliadwy a bywiog
  • gwella canlyniadau i blant a phobl ifanc a dysgwyr
  • sicrhau gwasanaethau gofal cymdeithasol cynaliadwy o ansawdd da ar gyfer y dyfodol
  • creu cartrefi o ansawdd da a chymunedau mwy diogel i bobl fyw a gweithio ynddynt
  • cefnogi twf cynhwysol cynaliadwy ac adferiad gwyrdd yn dilyn COVID

 

Mae CLlLC yn credu y bydd fframwaith lleol, sy’n seiliedig ar egwyddorion partneriaeth, parch a sybsidiaredd gyda chynghorau’n cael eu hannog a’u cymeradwyo, gan dderbyn cyllid teg a rhyddid lleol, yn arwain at ganlyniad gwell ar gyfer ein cymunedau amrywiol a darpariaeth uchelgeisiau’r Senedd ar gyfer Cymru. Rydym yn cyflwyno ein maniffesto i chi.

Gweler dolen isod am Maniffesto CLlLC ar gyfer Cymru Wledig:

https://wlga.cymru/wlga-manifesto-for-localism