CLILC

 

Maniffesto CLlLC ar gyfer Cymru Wledig

Mae Fforwm Gwledig CLlLC, sy'n cynnwys naw awdurdod lleol gwledig Cymru, yn galw ar fwy o ffocws ar faterion gwledig i Senedd a Llywodraeth Cymru newydd wedi etholiad 2021. Mae Cymru wledig yn gartref i draean o boblogaeth Cymru sy'n haeddu ystyriaeth gyfartal a chyfleoedd i ffynnu.

 

Mae Maniffesto Cymru Wledig CLlLC yn gwneud galwadau polisi clir i ddatblygu dull cyfannol o ddatblygu economaidd a chymunedol sy'n ategu polisïau crynodrefi ar draws ardaloedd mwy trefol Cymru.

 

Mae Awdurdodau Lleol yng Nghymru yn sefydliadau delfrydol ar gyfer datblygu cymdeithasol ac economaidd mewn ardaloedd gwledig, ac mae’r Gymdeithas Llywodraeth Leol yn parhau i ymgysylltu ar bob lefel o lywodraeth, o fewn hinsawdd wleidyddol Brexit, er mwyn sicrhau cyfalaf digonol i wireddu dyheadau datblygu ar draws ein hardaloedd gwledig.

 

Er mwyn atgyfnerthu’r ymrwymiad hwnnw i’r dull hwn, mae CLlLC wedi cydweithio’n ddiweddar ar gyfres o bodlediadau a oedd yn canolbwyntio’n benodol ar yr heriau allweddol sy’n wynebu Cymru wledig a blaenoriaethau ar gyfer polisi a nodir yn y Weledigaeth ar gyfer Cymru Wledig a gynhyrchwyd gan Fforwm Wledig CLlLC ar y cyd â Chanolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth fel rhan o brosiect ROBUST Horizon 2020. Mae’r gyfres hon o bodlediadau wedi’i chyflwyno gan Carwyn Jones, ac mae’n edrych ar botensial gweledigaeth wledig Cymru.


PODLEDIADAU

Mae’n cynnwys amrywiaeth o westeion arbennig dros 8 pennod, a bydd Carwyn yn edrych ar ddyfodol Cymru wledig. Mae'r podlediadau yn cynnwys:

 










Links (ROBUST) (Saesneg yn unig)

Wedi’i gyflwyno ar y Canolbwynt mae'r Canllawiau Dysgu canlynol sy'n seiliedig ar waith ROBUST:


 

https://wlga.cymru/wlga-rural-wales-manifesto