CLILC

 

Amdanon ni

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru. Prif ddibenion WLGA yw hyrwyddo safonau ac enw da maes llywodraeth leol a helpu'r awdurdodau i ddatblygu polisïau a blaenoriaethau a fydd yn gwella gwasanaethau i'r cyhoedd a democratiaeth.

 

Mae WLGA yn sefydliad trawsbleidiol y bydd gwleidyddion yn ei arwain i roi dylanwad cryf i fyd llywodraeth leol ymhlith adrannau gwladol. Mae’r gymdeithas hon yn cynrychioli’r 22 awdurdod lleol, sy’n aelodau cyflawn ohoni. Mae awdurdodau’r tri gwasanaeth tân ac achub a’r tri pharc cenedlaethol yn aelodau cyswllt.

 

Mae WLGA o’r farn mai fframwaith democrataidd ac iddo atebolrwydd lleol yw’r ffordd orau o gynnig gwasanaethau. Dylai fod gan bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau hynny gymaint o ddylanwad ag y bo modd ar ddulliau eu trefnu, eu rheoli a’u hariannu. Cynghorau lleol yw’r haen lywodraethu agosaf at y rhai sy’n defnyddio gwasanaethau, a’r cynghorau lleol sydd yn y sefyllfa orau i ymateb i’w hanghenion. Rydyn ni’n cydnabod mai rôl llywodraeth y wlad yw pennu strategaethau’r gwasanaethau cyhoeddus. Cyfrifoldeb y cynghorau lleol yw cynnig y gwasanaethau hynny ym mhob bro yn ôl amgylchiadau lleol, fodd bynnag.

 

Sefydlwyd WLGA ym 1996 ar gyfer llunio polisïau a chynrychioli’r cynghorau lleol. Ers hynny, mae wedi datblygu’n sefydliad sy’n arwain materion gwella a datblygu, caffael a chyflogaeth yn ogystal â chynnal amryw bartneriaid sy’n ymwneud â llywodraeth leol.


 

https://wlga.cymru/about-us