CLILC

 

Pecynnau cymorth am wasanaethau tai gwell

Mae WLGA wedi llunio pecynnau cymorth am wasanaethau tai gwell i helpu byd llywodraeth leol i wella gwasanaethau tai. Mae'r pecynnau hyn yn cynnig templed hyblyg ar gyfer adolygu gwasanaethau, nodi risgiau a pharatoi cynllun gwella.

Mae chewch pecyn cymorth ar gael yn y meysydd isod:

  1. Swyddogaeth strategol ym maes tai
  2. Cyngor am faterion tai a digartrefedd
  3. Rheoli Rhaglen 'Cefnogi Pobl'
  4. Atgyweirio a gwella tai
  5. Cydweithio â landlordiaid preifat
  6. Tai Lloches

Mae'n bwysig defnyddio'r pecynnau mewn modd adeiladol ac agored, gan ymgysylltu'n llawn â'r budd-ddalwyr i gyd. 

Llawlyfrau arferion da i landlordiaid a deiliaid prydlesau yng Nghymru

Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA), Tai Cymunedol Cymru a Gwasanaeth Cynghori’r Deiliaid Prydlesau (LEASE) wedi llunio’r llawlyfrau ar y cyd. Maen nhw ar ddwy ffurf:

  1. Gweithiau mawr: Llawlyfr arferion da i landlordiaid - Diben y llawlyfr yw helpu landlordiaid cymdeithasol i reoli proses y gweithiau mawr mewn modd teg a chyson
  2. Gweithiau mawr: Llawlyfr ar gyfer deiliaid prydlesau landlordiaid cymdeithasol - Ei ddiben yw esbonio ystyr ‘gweithiau mawr’, beth yw cyfrifoldebau eich landlord yn ôl y gyfraith a pha arferion da y dylai’r landlord eu defnyddio yn ystod gweithiau mawr ar eich safle.

Mae rhagor o wybodaeth gan: Jim McKirdle

https://wlga.cymru/better-housing-services-improvement-toolkits