Mae CLlLC wedi llwyddo gyda chais am arian o Gronfa Trosglwyddo UE Llywodraeth Cymru, a sefydlwyd i helpu gwasanaethau cyhoeddus a busnesau Cymru i baratoi ar gyfer Brexit. Bydd CLlLC yn defnyddio’r cyllid o £150k i ddarparu Rhaglen Cefnogi Trosglwyddiad Brexit ar gyfer Awdurdodau Lleol Cymru.
Nodau’r rhaglen fydd sicrhau nad yw awdurdodau lleol Cymru yn dyblygu gwaith wrth baratoi ar gyfer Brexit; sicrhau bod pob awdurdod lleol yng Nghymru yr un mor barod ar gyfer Brexit mewn sectorau allweddol; a sefydlu rhaglen gyfathrebu mwy ffurfiol, dwy ffordd, rhwng awdurdodau lleol a’r rhai hynny sy’n cynllunio ar gyfer Brexit yn Llywodraethau Cymru a’r DU.
Bydd gweithgareddau dan y rhaglen gefnogi yn cynnwys trefnu digwyddiadau (cenedlaethol a rhanbarthol), cynhyrchu pecynnau ac adnoddau eraill a chomisiynu ymchwil ar faterion lle bydd Brexit yn effeithio yn sylweddol ar lywodraeth leol. Darperir y rhaglen rhwng rŵan ac Ebrill 2019.
Bydd wybodaeth am y gweithgareddau o dan ein Rhaglen Cefnogi Trosglwyddiad Brexit a’r adnoddau cysylltiedig ar gael ar y wefan hon. Mae’r cynllun busnes yn ddogfen sy’n datblygu ond mae croeso i chi ofyn am gopi ohoni ar unrhyw adeg.
Dolenni: