CLILC

 

Brexit

Yn union wedi refferendwm y DU ar yr Undeb Ewropeaidd, fe alwodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a thair cymdeithas llywodraeth leol arall o’r DU i sicrhau bod llais llywodraeth leol yn cael ei glywed yn ystod y trafodaethau i adael yr Undeb.

Ers hynny, rydym wedi cynnal nifer o gyfarfodydd gyda Llywodraeth y DU a byddwn yn parhau i gynnal y cyfarfodydd hyn wrth i drafodaethau Brexit symud ymlaen. Mae ein trafodaethau gyda Llywodraeth y DU yn canolbwyntio ar y meysydd canlynol, lle mae’n bwysig bod awdurdodau lleol yn cael gwybodaeth a sicrwydd:   

  • Trefniadau ariannu yn y dyfodol
  • Sicrhau bod llywodraeth leol yn rhan o ddatblygu’r holl drefniadau deddfwriaethol angenrheidiol ar draws prif feysydd sydd o ddiddordeb i lywodraeth leol (caffael, cymorth gwladwriaethol, yr amgylchedd, gwastraff, diogelu'r defnyddiwr, hawliau’r defnyddiwr ac ati) ac y dylid ymgynghori â nhw ar ddeddfwriaeth arfaethedig newydd y DU yn ystod y cyfnod cyn sefydlu deddf
  • Datganoli pwerau’r UE i lefel lleol
  • Effaith Brexit ar lefydd
  • Cyflogaeth a chydlyniant cymunedol

Gall cymdeithasau lleol ar draws y DU ddarparu tystiolaeth hanfodol i Lywodraeth y DU am effaith Brexit yn lleol. Mae CLlC eisoes wedi cyhoeddi dau arolwg Brexit i awdurdodau lleol Cymru a bydd yn cyhoeddi galwadau pellach am dystiolaeth, i ddarparu’r dystiolaeth sydd ei angen er mwyn i Lywodraeth y DU gynllunio ar gyfer Brexit.  

Ar yr un pryd mae CLlLC yn gweithio i ddylanwadu ar gynlluniau Brexit Llywodraeth Cymru. Fe wnaethom gydlynu ymateb Cymru gyfan i’w ymgynghoriad ar Fuddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit (Mawrth 2018). Mae gan CLlLC gynrychiolaeth ar Grŵp Cynghori UE y Prif Weinidog ynghyd â gweithgorau amgylcheddol, amaethyddol a materion gweledig Llywodraeth Cymru. Mae CLlLC wedi ymateb i nifer o ymholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ymwneud â Brexit ers canlyniad y refferendwm.

Caiff holl waith Brexit CLlLC ei oruchwylio gan ein Grŵp Brexit o Aelodau Etholedig. Dyma’r aelodau:

  • Cadeirydd: Cynghorydd Rob Stewart, Dirprwy Arweinydd CLlLC a Llefarydd ar Ddatblygu Economaidd, Ewrop ac Ynni
  • Grŵp Llafur: Cynghorydd Anthony Hunt, Llefarydd CLlLC ar Gyllid ac Adnoddau
  • Grŵp Plaid Cymru: Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Llefarydd CLlLC ar y Gymraeg
  • Grŵp Annibynnol: Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd Grŵp Annibynnol CLlLC a Llefarydd ar Wella
  • Grŵp Ceidwadol: Cynghorydd Peter Fox, Arweinydd Grŵp Ceidwadol CLlLC a Llefarydd ar Faterion Digidol ac Arloesi

Mae gan CLlLC Grŵp Brexit mewnol, sydd yn dwyn ynghyd arbenigwyr o bob un o dimau polisi CLlLC ar faterion sy’n ymwneud â Brexit.

Mae gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru rôl hanfodol i’w chwarae wrth roi gwybod i Awdurdodau Lleol Cymru am y cynnydd o ran trafodaethau Brexit a sut mae CLlLC yn cynrychioli’r awdurdodau yn y trafodaethau hyn. Rydym yn cyhoeddi diweddariad misol am Brexit, gellir ei dderbyn gan unrhyw aelod etholedig neu swyddogion o awdurdod leol Cymru (Cyswllt: Lucy Sweet, Swyddog Cyfathrebu a Pholisi UE CLlLC). Caiff papurau briffio am Brexit eu paratoi yn rheolaidd hefyd ar gyfer arweinwyr awdurdod lleol (yn aml i gyd-fynd â chyfarfodydd Bwrdd Gweithredol CLlLC, ond cânt eu llunio ar adegau eraill hefyd). Mae CLlLC yn achub ar gyfleoedd i friffio Aelodau Etholedig a swyddogion trwy fynychu cyfarfodydd rhanbarthol neu rwydweithio pwysig.


Dolenni:


Mae rhagor o wybodaeth gan: Neville Rookes 

https://wlga.cymru/brexit