CLILC

 

Llywodraethu a Pherfformiad Corfforaethol

Hunanasesiad

Mae’r Ddeddf yn sefydlu fframwaith deddfwriaethol newydd ar gyfer etholiadau, democratiaeth, llywodraethu a pherfformiad llywodraeth leol. Mae’r Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn ei gwneud yn ofynnol i bob Cyngor yng Nghymru barhau i adolygu, drwy hunanasesu, i ba raddau y mae’n bodloni’r ‘gofynion perfformiad’, hynny yw i ba raddau y maent:

 

  • yn gweithredu eu swyddogaethau  yn effeithiol
  • Yn defnyddio’u hadnoddau yn economaidd, yn effeithiol ac yn effeithlon
  • Y mae eu trefniadau llywodraethu yn effeithiol ar gyfer sicrhau’r uchod

 

Mae’r Ddeddf hefyd yn rhoi dyletswydd i gyhoeddi adroddiad yn nodi canlyniadau eu hunanasesiad unwaith ar gyfer pob blwyddyn ariannol.

 

 

Asesiadau Perfformiad Panel

Mae’r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar gynghorau i drefnu i banel gynnal ac ymateb i asesiad corfforaethol, sefydliadol, o’r graddau y mae’r cyngor yn bodloni ei ofynion perfformiad.

 

Gall cynghorau gomisiynu CLlLC i gydlynu a hwyluso'r AAP ar eu rhan, am ragor o wybodaeth cysylltwch ag Tîm Gwella CLlLC:

Gwelliant@wlga.gov.uk

 

Cyfansoddiad Model Diwygiedig

Fel rhan o'r Rhaglen Wella, diweddarwyd y cyfansoddiad model i'w addasu'n lleol.

 

Ymgysylltu a Chyfranogiad Cyhoeddus

Mae newidiadau yn y Ddeddf wedi atgyfnerthu pwysigrwydd llais y cyhoedd mewn democratiaeth leol, er mwyn cefnogi prosesau gwneud penderfyniadau cadarn a chynrychioliadol. I gefnogi cynghorau gyda’u dull o ymgynghori ac ymgysylltu, mae’r adnoddau canlynol wedi’u diweddaru a’u hadnewyddu:

 

 

Yn ogystal, mae'r Tîm Gwella yn gweithio gyda chynghorau i ddatblygu syniadau arloesol ac arferion da o ran ymgysylltu â'r cyhoedd.

 

Rheoli Risg

Sefydlwyd Rhwydwaith Swyddogion Rheoli Risg yn ystod 2022-23, i ddarparu fforwm i ymarferwyr risg rannu gwybodaeth, arfer da a dysgu. Mae'r Tîm Gwella yn gweithio gyda'r rhwydwaith i goladu trosolwg o'r dirwedd risg ar draws llywodraeth leol yng Nghymru.

 

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae CLlLC yn cefnogi Rhwydwaith Swyddogion Cydraddoldeb, i ddarparu fforwm i ymarferwyr rannu gwybodaeth am faterion sy’n dod i’r amlwg, arfer da, ac i dderbyn diweddariadau ar flaenoriaethau a chynlluniau Llywodraeth Cymru yn y maes hwn.

 

Mae’r fforwm hwn yn cefnogi Cynghorau gyda’u Dyletswydd Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus, a gweithredu nifer o gynlluniau Llywodraeth Cymru gan gynnwys:

 

Data a Gwybodaeth

Comisiynwyd Data Cymru drwy’r Rhaglen Wella i weithio gyda chynghorau i ddatblygu’r offeryn Data Perfformiad Hunanasesu:

I gael mynediad at offeryn data Perfformiad Hunanasesu, dilynwch y ddolen isod:

Data Perfformiad Hunan-Asesu - Data Cymru

A chyfres o Ddangosfyrddau Data y gellir eu cyrchu trwy wefan Data Cymru:  Hafan - Data Cymru

 

I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o'r cymorth, cysylltwch â Thîm Gwella CLlLC:

Gwelliant@wlga.gov.uk

https://wlga.cymru/corporate-governance-and-performance