CLILC

 

Materion diwylliannol a hamdden

"Bydd penderfyniad i fuddsoddi mewn gwasanaethau hamdden a diwylliannol lleol o les mawr i gymunedau Cymru"

Ein Nod

Ariannu gwasanaethau lleol ataliol yn gynaladwy

Dyma’r adeg briodol i fuddsoddi yn yr amrywiaeth eang o wasanaethau ataliol sydd ym maes llywodraeth leol.

 

Boed reoli llyfrgelloedd, gwasanaethau diwylliannol ac amgueddfeydd, annog pobl i ymarfer trwy gyfleoedd i gydio mewn chwaraeon a hamdden, hybu diwydiant yr ymwelwyr neu ddiogelu safleoedd hanesyddol, mae’r cynghorau lleol ar flaen y gad er lles cymunedau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.

 

Maen nhw’n wynebu talcen caled, fodd bynnag, am fod cyllideb sawl gwasanaeth anstatudol wedi crebachu o ryw 50% er bod mwy a mwy o alw amdanyn nhw. Er gwaetha’r anawsterau, mae’r cynghorau lleol yn parhau i weithio dros drigolion a chymunedau pob bro ac maen nhw’n arloesi trwy sefydlu ffyrdd newydd o gynnig gwasanaethau a gweithredu.

 

Fel sydd wedi’i nodi yn ein maniffesto, ‘Atebolrwydd Lleol 2016’, mae gwir angen cryfhau’r cynghorau eto trwy fuddsoddi yn y gwasanaethau gwerthfawr hynny sy’n helpu’n fawr i ddod â phobl at ei gilydd yn ogystal â lleddfu pwysau cynyddol ar feysydd pwysig eraill megis y GIG.

 

Bydd penderfyniad i ddefnyddio adnoddau presennol Cymru i gynnal gwasanaethau diwylliannol, treftadaeth a hamdden lleol yn helpu i ddiogelu gwasanaethau sy’n agos at galonnau’r bobl – gwasanaethau sy’n helpu i fynd i’r afael â thlodi ac sydd o les i’r corff a’r meddwl fel ei gilydd yn rhan o’r ymdrech i osgoi afiechyd.

 

Rydyn ni’n cydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill megis Chwaraeon Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru. Ein nod yw gofalu bod cyfraniad y gwasanaethau cyhoeddus lleol yn cael ei werthfawrogi er lles cymunedau Cymru.


Dolenni:


Mae rhagor o wybodaeth gan: Chris Llewelyn

https://wlga.cymru/culture-heritage-sport-and-tourism