CLILC

 

Rhaglen Gefnogaeth Datgarboneiddio am awdurdodau lleol

Mae CLlLC wedi llwyddo gyda chais am £200k o gyllid o Lywodraeth Cymru i ddarparu Rhaglen Gefnogaeth Datgarboneiddio am awdurdodau lleol.

 

Nodau’r rhaglen fydd cefnogi awdurdodau lleol Cymru gyda’i gilydd i baratoi ar gyfer sector cyhoeddus sero net yng Nghymru erbyn 2030. Ei nod yw gwneud hyn trwy;

 

  • helpu pob awdurdod lleol yng Nghymru i ddatblygu cynlluniau gweithredu datgarboneiddio effeithiol, wedi’u seilio ar dystiolaeth, gan gomisiynu ymchwil ac offer i ddarparu data ac arweiniad i gefnogi hwn;
  • hwyluso cyfathrebu cydweithredol, dwyffordd rhwng awdurdodau lleol a Llywodraethau Cymru a'r DU, a'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector ehangach, a;
  • tynnu sylw at gyfleoedd i weithio ar raddfa a chefnogi hyfforddiant a rhannu gwybodaeth.

 

Darperir y rhaglen fanwl yma rhwng rŵan a Mawrth 2022.

 

Bydd wybodaeth am y gweithgareddau o dan ein Rhaglen Gefnogaeth Datgarboneiddio a’r adnoddau cysylltiedig ar gael ar y wefan hon. Mae’r cynllun busnes yn ddogfen sy’n datblygu ond mae croeso i chi ofyn am gopi ohoni ar unrhyw adeg. 


Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: Tim Peppin

https://wlga.cymru/decarbonisation-support-programme-for-welsh-local-authorities