CLILC

 

Ein Nod

Ymdrechion cynghorau lleol er twf economaidd lleol a rhanbarthol

Datblygu economaidd, cynllunio, trafnidiaeth ac adfywio

"Bydd dyletswydd statudol datblygu economaidd yn cryfhau rôl bwysig y cynghorau lleol ynglŷn â datblygu economi Cymru"

Mae’r cynghorau lleol yn cymryd rhan flaengar ynglŷn â gwella llesiant economaidd Cymru.

 

Trwy helpu cwmnïau lleol, llunio fframweithiau cynllunio eglurach, adfywio ardaloedd sydd wedi dirywio a chynnal rhwydweithiau cludiant cyhoeddus mwy hyfyw, mae gwasanaethau’r cynghorau lleol yn hanfodol ar gyfer gwella cyflwr yr economi.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn y dasg i wella lles yng Nghymru, ar gyfer cenedlaethau presennol a’r dyfodol. I wneud hynny mae’n rhaid iddynt chwarae rôl uniongyrchol yn cyflawni ffurfiau cynaliadwy a chynhwysol o dwf ar lefelau lleol a rhanbarthol.

 

Er bod cynghorau eisoes yn gweithio mewn partneriaeth ar draws eu heconomïau rhanbarthol, maent yn gwneud hynny ar adeg pan mae gwasanaethau sy’n hanfodol i’n lles economaidd wedi profi gostyngiadau o hyd at 50% yn y gyllideb.

 

Nawr yw’r amser i roi grym pellach i lywodraeth leol. Bydd y pŵer cymhwysedd cyffredinol yn y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yn helpu i sicrhau bod ein cynghorau yn ganolbwynt i dwf economaidd lleol a lles economaidd.  

 

Mae’r cynnydd sylweddol a wnaed gan lywodraeth leol i ddatblygu dulliau newydd ar gyfer datblygiad rhanbarthol – gan gynnwys Bargeinion Twf a Dinesig yn Ne Orllewin a De-Ddwyrain Cymru a thrwy Bartneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru – yn dangos beth y gellir ei gyflawni pan mae cynghorau lleol yn cydweithio gyda phartneriaid ar lefel ranbarthol.

 

Rydym yn gweithio i gefnogi’r mentrau hyn drwy ddylanwadu ar bolisi cenedlaethol, rhannu arferion da a nodi ffynonellau hanfodol o gyllid – y diwethaf yn fater mawr yn sgil y DU yn gadael yr UE.  

 

Ein nod yw gofalu bod pwysigrwydd gwasanaethau cyhoeddus lleol yn cael ei gydnabod ynglŷn â gwella economi pob ardal a bod cynghorau lleol mewn sefyllfa i daro’r fargen orau er lles eu cymunedau.


Mae rhagor o wybodaeth gan: Tim Peppin

https://wlga.cymru/economic-development-planning-transport-and-regeneration