CLILC

 

Fframwaith Gwella Cydraddoldeb Cymru

Mae Fframwaith Gwella Cydraddolde Cymru yn:

 

  • fframwaith rheoli cydraddoldeb ac yn ddull hunanasesu
  • ffordd o hwyluso deilliannau sy’n hybu cyfleoedd cyfartal yng ngwasanaethau’r awdurdodau lleol
  • cydblethu â threfniadau’r awdurdodau lleol ar gyfer Rhaglen Gwella Cymru
  • fframwaith sy’n cyd-fynd â’r trefniadau rheoli presennol gan annog pob awdurdod i fireinio a datblygu’r trefniadau hynny fel y bydd modd rheoli cydraddoldeb yn effeithiol a gwella drwy’r amser

 

Mae Fframwaith Gwella Cydraddoldeb Cymru wedi’i ailwampio ar gyfer 2011 yn ychwanegu at gryfderau’r fersiwn gwreiddiol a gafodd ei gyhoeddi yn 2008. Yn ogystal â chymryd y newidiadau yn y sector cyhoeddus i ystyriaeth ac adlewyrchu gofynion Deddf ‘Cydraddoldeb’ 2010, dyletswyddau penodol sector cyhoeddus Cymru ym maes cydraddoldeb a Mesur ‘Llywodraeth Leol’ Cymru 2009, mae’n annog awdurdodau lleol i ganolbwyntio ar ddeilliannau fel y bydd pobl yn well eu byd.

 

Mae fersiwn 2011 Fframwaith Gwella Cydraddoldeb Cymru wedi’i baratoi ar y cyd â Chomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru, Llywodraeth Cymru, yr awdurdodau tân ac achub a swyddogion cydraddoldeb ledled byd llywodraeth leol.


Mae rhagor o wybodaeth gan: Joseph Lewis

https://wlga.cymru/equality-improvement-framework-for-wales