CLILC

 

Ein nod

Diwygio ariannol ac ariannu gwasanaethau lleol yn deg

Cyllid ac adnoddau

"Bydd angen rhagor o hyblygrwydd ariannol ar y cynghorau i ymateb i anghenion lleol"

Mae cyflwr ariannol maes llywodraeth leol yn dylanwadu’n uniongyrchol ar gyflwr gwasanaethau cyhoeddus lleol.

 

Rydyn ni’n wynebu talcen caled. Mae pwysau ariannol enfawr ar wasanaethau’r cynghorau o ganlyniad i lymder parhaus, toriadau cyllidebol creulon a threfn ariannol sydd wedi dyddio.

 

Mae comisiwn annibynnol dros faterion ariannol llywodraeth leol wedi cyhoeddi adroddiad o’r enw ‘Uchelgais dros Newid: Anelu’n Uwchsy’n cynnig newidiadau a allai drawsffurfio ein ffordd o ariannu gwasanaethau cyhoeddus lleol.

 

Rhaid newid y drefn yn ddiymdroi. Mae angen inni gwtogi ar gostau biwrocratiaeth wladol, ymgysylltu â threthdalwyr lleol o ran sut mae eu harian yn cael ei wario, buddsoddi mewn gwasanaethau ataliol hynod bwysig a dodi’r cynghorau lleol wrth wraidd twf a lles economi pob bro.

 

Ar y cyd ag amryw gylchoedd proffesiynol, mae gwaith ariannol WLGA yn ymwneud â holl ystod y materion sy’n effeithio ar gynghorau lleol, parciau cenedlaethol ac awdurdodau tân ac achub.

 

Rydyn ni’n gweithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru trwy’r Is-gylch Ariannol i ofalu bod y dyraniad i fyd llywodraeth leol yn adlewyrchu holl anghenion ein gwasanaethau cyhoeddus. Rydyn ni’n cynorthwyo Is-gylch y Dosbarthu i ofalu bod holl anghenion ein cymunedau amryfal wedi’u cymryd i ystyriaeth.

 

Y nod yw gofalu bod gan wasanaethau cyhoeddus lleol y cymorth ariannol maen nhw’n ei haeddu.


Mae rhagor o wybodaeth gan: Jon Rae

https://wlga.cymru/finance-and-resources