CLILC

 

Arfer Da gan y Cyngor - Partneriaeth

Dydd Gwener, 20 Awst 2021 12:13:00

Sefydlwyd Galw Gofal gan Dîm Lles Cymunedol Gofal Cymdeithasol ac Addysg  Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy  i ddarparu cefnogaeth yn y cartref trwy systemau ffôn i wella ansawdd bywyd ac annibyniaeth pobl, Yn ystod y pandemig ymestynnwyd gwasanaethau Galw Gofal i gynnwys y rhai yn y gymuned a oedd yn gwarchod eu hunain. Er mwyn ymateb yn gyflym i’r angen cynyddol am gefnogaeth yn ystod y pandemig, bu i Galw Gofal ddatblygu partneriaethau oedd yn bodoli gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Age Connects Canol Gogledd Cymru a Chymorth Cymunedol a Gwirfoddol Conwy . O Fawrth i Awst 2020, gwnaed 10,789 o alwadau ffôn dyddiol gyda staff yn ymateb i amrywiaeth o ymholiadau o gymorth gyda dosbarthu bwyd a phresgripsiynau i gyfeirio at Dimau Lles Cymunedol i gael cefnogaeth i fynd ar-lein.

Dydd Gwener, 23 Ebrill 2021 14:09:00

Yn ystod pandemig Covid-19 fe weithiodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr ochr yn ochr â Chymdeithas Gwirfoddol Sefydliadau Pen-y-Bont ar Ogwr (BAVO) i ymestyn y cynllun Cymdeithion Cymunedol gan gydnabod yr angen i addasu dulliau mewn cysylltiad â’r pandemig a chyfyngiadau. Roedd Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Pen-y-Bont ar Ogwr a’r Cyngor eisiau darparu cefnogaeth i unigolion mewn ffyrdd gwahanol, yn cynnwys cyfeillio dros y ffôn i ddarparu cefnogaeth o bell, gan dargedu oedolion hŷn sydd wedi’u hynysu dros gyfnod y gaeaf. Yn ystod 2020, derbyniwyd 229 o atgyfeiriadau ar gyfer cefnogaeth cyfeillio. Cefnogwyd 145 o unigolion gyda chyfleoedd cyfeillio, ac roedd 102 o wirfoddolwyr yn rhan o brosiect cyfeillio dros y ffôn a 50 o unigolion yn rhan brosiect treialu cyfaill gohebol. Parhaodd y cynllun cyfaill gohebol rhwng cenedlaethau i dyfu er gwaethaf yr amhariadau gyda’r ysgolion yn cau ac mae’r Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Pen-y-Bont ar Ogwr wedi creu cysylltiadau gydag ysgol gynradd lleol yn ystod y cyfnod clo i ysgrifennu llythyrau/darluniadau y datblygodd Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Pen-y-Bont ar Ogwr y rhain mewn i gardiau post i’w hanfon at fuddiolwyr a gwirfoddolwyr Cymdeithion Cymunedol.

Dydd Gwener, 23 Ebrill 2021 14:04:00

Mae rhaglen Cysylltu Cymunedau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr wedi cynyddu’r gefnogaeth y mae’n ei ddarparu i bobl a chymunedau yn ystod pandemig Covid-19. Mae Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Pen-y-Bont ar Ogwr (BAVO) gan weithio gyda’r Cyfeirwyr Cymunedol yn cefnogi amrywiaeth o anghenion cymunedol. Mae’r prif lefelau o gefnogaeth yn cynnwys: cyflenwi presgripsiwn, gwasanaethau siopa, cefnogaeth banc bwyd yn cynnwys talebau banc bwyd a danfon parseli bwyd i’r rhai sydd eu hangen fwyaf, ynghyd ag addysgu pobl am ddarpariaeth bwyd fforddiadwy eraill megis Pantris Bwyd, gwiriadau lles a chyfeillio dros y ffôn. Mae rhaglen Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Pen-y-Bont ar Ogwr a Chysylltu Cymunedau yn gweithio gyda sefydliadau allanol a gwasanaethau cynnal er mwyn sicrhau bod y bobl mwyaf diamddiffyn yn cael mynediad at y gefnogaeth maent eu hangen. Mae yna restr partneriaid o 77 sefydliad sydd wedi cefnogi Cysylltu Cymunedau, ac mewn cyfres o wiriadau effaith ynglŷn â chefnogaeth Cysylltu Cymunedau i 214 o unigolion, roedd 99% yn hapus gyda’r gefnogaeth, yr atgyfeirio a’r wybodaeth a chyngor y mae’r cyfeirwyr wedi’i ddarparu.

Dydd Mercher, 3 Mawrth 2021 15:27:00

Roedd Cyngor Sir Fynwy  a sefydliadau’r trydydd sector wedi gweithio gyda’i gilydd yn ystod y cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth 2020 i ddatblygu strwythur cefnogi ar gyfer grwpiau cymunedol. Roedd y strwythur cefnogi yn cynnwys hyfforddi a sgrinio gwirfoddolwyr ar gyfer diogelu, rhannu gwybodaeth, datblygu rhwydweithiau cymdogaeth ac un pwynt mynediad yn y cyngor fyddai’n gallu cynorthwyo’r grwpiau gydag unrhyw heriau yr oeddent yn eu hwynebu. Roedd egwyddorion seiliedig ar ased a chred ac ymddiried mewn cymunedau yn sylfeini strategaeth y cyngor ar gyfer rheoli’r cyfnod clo. Roedd cryfder perthnasoedd y cyngor gyda’r grwpiau cymuned presennol a grwpiau cymorth cydfuddiannol newydd yn golygu bod y cyngor yn gallu cael budd drwy gefnogi’r cymunedau mewn llawer mwy na siopa a chasglu presgripsiynau. Mae’r math hwn o ddull o dan arweiniad y gymuned ac wedi’i lywio gan berthynas bersonol wedi ysbrydoli creu Rhaglen Llysgennad y Dref newydd y sir. Wedi’i drefnu gan gynghorau tref, gyda chefnogaeth y cyngor sir a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent, mae’r rhaglen yn gweld gwirfoddolwyr lleol yn cwrdd gyda’r sawl sy’n teimlo’n ansicr am adael eu cartrefi a cherdded gyda nhw o amgylch canol y dref. Mae’r gwirfoddolwyr yn derbyn hyfforddiant fel y gallant roi cyngor am fesurau Covid-19 sydd ar waith o amgylch canol y dref a’r siopau, sgwrsio am les cyffredinol ac arwyddbostio i wasanaethau lleol.

 

Mae manylion pellach wedi’i gasglu mewn Astudiaeth Leol Newydd (Ion 2021): Symud y Cydbwysedd: Addasu'n lleol, arloesi a chydwithio yn ystod y pandemig a thu hwnt

Dydd Mercher, 3 Mawrth 2021 14:29:00

O fewn pythefnos cyntaf  y cyfnod clo ym mis Mawrth 2020, roedd dros 600 o bobl wedi cofrestru i wirfoddoli gyda Banc Gwirfoddolwyr Mantell Gwynedd   Roedd Cyngor Gwynedd a chyrff trydydd sector yn cynnal cyfarfodydd ar-lein ffurfiol ac yn gweithio gyda’i gilydd yn fwy cyfunol i wasanaethu anghenion cymunedau drwy nodi bylchau, rhannu adnoddau a chamu i fyny i’r galw. Er bod natur gwirfoddoli wedi newid ers y cyfnod clo cyntaf gyda llawer o bobl yn dychwelyd i’r gwaith neu i addysg, mae’r ysbryd gwirfoddoli wedi parhau. Roedd llawer o’r bobl oedd wedi cofrestru’n wreiddiol i wirfoddoli gyda Mantell Gwynedd ar ddechrau’r cyfnod clo cyntaf wedi estyn allan i wirfoddoli eto yn ystod y Cyfnod Atal Byr yn yr Hydref. 

 

Mae manylion pellach wedi’i gasglu mewn Astudiaeth Leol Newydd (Ion 2021): Symud y Cydbwysedd: Addasu'n lleol, arloesi a chydwithio yn ystod y pandemig a thu hwnt

Dydd Iau, 17 Rhagfyr 2020 08:47:00

<span data-contrast="auto" xml:lang="CY-GB">Mae <span data-contrast="none" xml:lang="CY-GB"><span data-ccp-charstyle="Hyperlink">Well-f<span data-contrast="none" xml:lang="CY-GB"><span data-ccp-charstyle="Hyperlink">ed<span data-contrast="auto" xml:lang="CY-GB"> yn bartneriaeth rhwng <span data-contrast="none" xml:lang="CY-GB"><span data-ccp-charstyle="Hyperlink">Cyngor Sir y Fflint<span data-contrast="auto" xml:lang="CY-GB">, <span data-contrast="none" xml:lang="CY-GB"><span data-ccp-charstyle="Hyperlink">Clwyd Alyn<span data-contrast="auto" xml:lang="CY-GB"> a Can Cook – cwmni bwyd sy’n ymroi i fwydo pawb yn dda. <span data-contrast="auto" xml:lang="CY-GB">Ers argyfwng Covid-19, mae Well-fed wedi addasu ei weithrediadau o gyflenwi prydau parod maethlon i gartrefi gofal i ymateb i’r galw anhygoel i ddarparu bwyd ar frys yn y sir. Ochr yn ochr â phrydau parod maethlon, mae’r Cyngor wedi bod yn cyflenwi bagiau popty araf a ‘Bocsys Diogelwch Well-fed’ oedd yn ychwanegiad i focsys Cysgodi Llywodraeth Cymru. Cafodd y blychau diogelwch ‘saith niwrnod’ eu darparu i’r bobl oedd yn cael eu hystyried yn ddiamddiffyn, yn cysgodi am resymau iechyd a’r rhai oedd angen cymorth â bwyd am resymau ariannol, ac yn cynnwys detholiad o brydau barod, prif fwydydd a nwyddau ymolchi.  

Dydd Gwener, 11 Rhagfyr 2020 12:59:00

<span data-contrast="auto" xml:lang="CY-GB">Mae cynghorau <span data-contrast="none" xml:lang="CY-GB"><span data-ccp-charstyle="Hyperlink">Wrecsam<span data-contrast="none" xml:lang="CY-GB">, <span data-contrast="none" xml:lang="CY-GB"><span data-ccp-charstyle="Hyperlink">Sir Ddinbych<span data-contrast="auto" xml:lang="CY-GB"> a <span data-contrast="none" xml:lang="CY-GB"><span data-ccp-charstyle="Hyperlink">Sir Y Fflint <span data-contrast="none" xml:lang="CY-GB">wedi gweithio mewn partneriaeth i ddarparu Gwasanaeth <span data-contrast="none" xml:lang="CY-GB">Cydlyniant<span data-contrast="none" xml:lang="CY-GB"> Cymunedol Rhanbarthol i Ogledd Ddwyrain Cymru. Mae’r gwasanaeth yn cefnogi oddeutu 40 o grwpiau cymunedol a sefydliadau trydydd sector sydd yn eu tro yn cynnig cefnogaeth weithgar<span data-contrast="none" xml:lang="CY-GB"> i gymunedau lleiafrifol. 

<span data-contrast="none" xml:lang="CY-GB">Ers Mawrth 2020, mae’r <span data-contrast="none" xml:lang="CY-GB">Cydlyniant<span data-contrast="none" xml:lang="CY-GB"> Cymunedol Rhanbarthol wedi parhau i gefnogi cymunedau ond fel gyda’r rhan fwyaf o wasanaethau mae’r ffocws wedi mynd i’r afael â’r heriau sy’n ein hwynebu yn sgil COVID19.  Mae cyfanswm o tua £20,000 wedi cael ei wobrwyo mewn grantiau i gefnogi cynlluniau penodol fel: 

    <li aria-setsize="-1" data-aria-level="1" data-aria-posinset="1" data-font="Symbol" data-leveltext="" data-listid="2" role="listitem" style="clear:both;">

    <span data-contrast="none" xml:lang="CY-GB">darparu parseli bwyd, cyfarpar diogelu personol a chefnogaeth ar-lein;  

    <li aria-setsize="-1" data-aria-level="1" data-aria-posinset="2" data-font="Symbol" data-leveltext="" data-listid="2" role="listitem" style="clear:both;">

    <span data-contrast="none" xml:lang="CY-GB">pecynnau gwybodaeth wedi’u cyfieithu; 

    <li aria-setsize="-1" data-aria-level="1" data-aria-posinset="3" data-font="Symbol" data-leveltext="" data-listid="2" role="listitem" style="clear:both;">

    <span data-contrast="none" xml:lang="CY-GB">gweithgareddau cadw pellter cymdeithasol yn ystod gwyliau’r haf;  

    <li aria-setsize="-1" data-aria-level="1" data-aria-posinset="4" data-font="Symbol" data-leveltext="" data-listid="2" role="listitem" style="clear:both;">

    <span data-contrast="none" xml:lang="CY-GB">cefnogaeth mewn perthynas â thrais domestig a chamddefnyddio sylweddau yn ystod Covid-19; 

    <li aria-setsize="-1" data-aria-level="1" data-aria-posinset="5" data-font="Symbol" data-leveltext="" data-listid="2" role="listitem" style="clear:both;">

    <span data-contrast="none" xml:lang="CY-GB">cyfleoedd gwirfoddoli ac ymrwymo’r gymuned ar ôl Covid-19; a 

    <li aria-setsize="-1" data-aria-level="1" data-aria-posinset="6" data-font="Symbol" data-leveltext="" data-listid="2" role="listitem" style="clear:both;">

    <span data-contrast="none" xml:lang="CY-GB">chefnogi’r Gymuned Teithwyr lleol yn ystod Covid-19 gyda chefnogaeth addysg o bell.  

<span data-contrast="none" xml:lang="CY-GB">Dydi <span data-contrast="none" xml:lang="CY-GB">Cydlyniant<span data-contrast="none" xml:lang="CY-GB"> Cymunedol Rhanbarthol ddim yn gorffwys ar ei bri. Mae’n sefyll ar banel cronfeydd <span data-contrast="none" xml:lang="CY-GB">argyfwng Covid-19 <span data-contrast="none" xml:lang="CY-GB"><span data-ccp-charstyle="Hyperlink">Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru <span data-contrast="none" xml:lang="CY-GB">ac yn gweithio gyda <span data-contrast="none" xml:lang="EN-GB"><span data-ccp-charstyle="Hyperlink">CMGW <span data-contrast="none" xml:lang="CY-GB">a phartneriaid allweddol i adnabod a sicrhau cronfeydd mawr a mwy cynaliadwy i gefnogi cymunedau lleiafrifol ac unigolion gyda nodweddion <span data-contrast="none" xml:lang="CY-GB">rhagamcanol<span data-contrast="none" xml:lang="CY-GB">. 

Dydd Gwener, 11 Rhagfyr 2020 12:34:00

 <span data-contrast="auto" xml:lang="EN-GB">Mae <span data-contrast="none" xml:lang="EN-GB"><span data-ccp-charstyle="Hyperlink">Cyngor Sir Ceredigion<span data-contrast="auto" xml:lang="EN-GB"> wedi lansio Cerdyn Gofalwr i ofalwyr di-dâl sy’n gofalu am aelodau o’r teulu neu ffrindiau, na fyddai’n gallu ymdopi ar eu pennau eu hunain heb gymorth na’r gofal y mae gofalwyr di-dâl yn eu darparu. 

<span data-contrast="auto" xml:lang="EN-GB">Mae’r Cerdyn Gofalwr yn gerdyn adnabod a llun, a gyhoeddir gan Uned Gofalwyr Cyngor Sir Ceredigion, i ofalwyr sy’n 18 oed a hyn ac sydd wedi cofrestru gyda <span data-contrast="none" xml:lang="EN-GB"><span data-ccp-charstyle="Hyperlink">Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr<span data-contrast="auto" xml:lang="EN-GB"> y cyngor.  

<span data-contrast="auto" xml:lang="EN-GB">Mae’r cerdyn wedi cael ei ddatblygu mewn ymateb i bandemig Covid-19. Yn ystod misoedd cyntaf y pandemig, cysylltodd nifer o ofalwyr a’r cyngor i ofyn am rywbeth y gallent ei ddefnyddio i brofi eu bod yn gofalu am unigolyn pe bai rhywun yn eu herio pan fyddent yn casglu neu’n cludo nwyddau hanfodol i’r unigolyn hwnnw. 

<span data-contrast="auto" xml:lang="EN-GB">Bydd gan ddeiliaid y cardiau fynediad at gyfleoedd siopa wedi’u blaenoriaethu gyda masnachwyr sy’n rhan o’r cynllun. Mae rhestr o’r masnachwyr hynny, ynghyd a buddion eraill y cynllun, ar gael ar <span data-contrast="none" xml:lang="EN-GB"><span data-ccp-charstyle="Hyperlink">dudalen Cerdyn Gofalwyr<span data-contrast="auto" xml:lang="EN-GB"> y cyngor. 

Dydd Llun, 12 Hydref 2020 14:39:00

Sefydlodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy linell gymorth y Gwasanaeth Cymorth Cymunedol (GCC) ym mis Mawrth 2020, a'i bwrpas oedd darparu cymorth i unrhyw un yn y gymuned nad oedd yn gallu galw ar ffrindiau, teulu neu gymdogion i ofyn am help i wneud siopa, danfon meddyginiaeth ac ati. Darparwyd cymorth i ddechrau trwy baru gwirfoddolwyr ac yna fe symudon ni ymlaen i ddefnyddio staff a adleoliwyd dros dro o wasanaethau eraill yn y cyngor. Anogwyd gwirfoddolwyr i gofrestru gyda Chymorth Cymunedol a Gwirfoddol Conwy (CVSC) i gael eu paru â sefydliadau lleol. Mae gan CBS Conwy gytundeb â nifer o siopau lleol a’r ddwy siop Tesco yn y sir i gymryd taliad dros y ffôn gan unigolion sy'n defnyddio'r GCC ar gyfer ceisiadau siopa. Pan fydd Staff Conwy wrth y til, mae'r siop yn ffonio'r cwsmer sydd wedyn yn talu am ei siopa dros y ffôn. Mae yna broses mewn lle hefyd i gynorthwyo os nad oes gan unigolion fodd i dalu gyda cherdyn dros y ffôn. Mae'r gwasanaeth GCC wedi'i ostwng yn unol â llacio’r rheolau clo ac mae nifer y ceisiadau a dderbyniwn yn lleihau. Mae pob meddygfa a fferyllfa wedi cael gwybod ac wedi cael eu hannog i gofrestru gyda'r Groes Goch os oes angen cymorth arnynt i ddosbarthu presgripsiynau.

Dydd Llun, 12 Hydref 2020 14:10:00

Ar ddechrau’r pandemig daeth Cyngor Abertawe a’i bartneriaid yn y Sectorau Iechyd a Gwirfoddol at ei gilydd i ffurfio ymateb cydgysylltiedig. Un elfen o hynny oedd sefydlu gweithgor a oedd yn cynnwys swyddogion wedi’u hadleoli o’r Gwasanaethau Diwylliannol, Eiddo ac Atal, Cydlynu Ardal Leol a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe (SCVS). Dechreuodd y Cyngor ac SCVS fapio darpariaeth bwyd ledled y sir i sicrhau bod gwybodaeth ar gael i unrhyw unigolion mewn angen ynglŷn â ble i gael gafael ar fwyd addas. Darparwyd y wybodaeth ar wefan y Cyngor a hefyd trwy wasanaeth cyfeirio uniongyrchol SCVS, a oedd yn casglu gwybodaeth fesul ardal clwstwr meddygfa. Mae’r Cyngor wedi cefnogi’r banciau bwyd cymunedol, a reolir yn y Canolfannau Dosbarthu Bwyd, trwy gydol y pandemig trwy roi a phrynu nwyddau, ac mae SCVS wedi llwyddo i drefnu danfoniadau FareShare i nifer o fanciau bwyd annibynnol yn y Sir. Os oes angen bwyd neu hanfodion eraill ar frys, mae gan bob unigolyn gyswllt â'r rhwydwaith hwn a bydd 'pecyn argyfwng' yn cael ei ddanfon naill ai gan yr awdurdod lleol neu'r SCVS. Mae Swansea Together, partneriaeth rhwng sefydliadau o’r sectorau cyhoeddus, trydydd a phreifat sef SCVS, yr Awdurdod Lleol, Matthew’s House, Crisis, The Wallich, Zac’s Place a Mecca Bingo, wedi darparu miloedd o brydau bwyd i bobl ddiamddiffyn iawn yn ystod yr argyfwng. Mae’r bartneriaeth wedi cael cefnogaeth SCVS a’r Awdurdod Lleol gyda chyngor, cyhoeddusrwydd, cyflenwadau bwyd, gwirfoddolwyr a chludiant.

Tudalen 1 o 4 1 2 3 4 > >>
https://wlga.cymru/good-council-practice-partnership