CLILC

 

Arfer Da gan y Cyngor – Gweithlu

Sefydlodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy linell gymorth y Gwasanaeth Cymorth Cymunedol (GCC) ym mis Mawrth 2020, a'i bwrpas oedd darparu cymorth i unrhyw un yn y gymuned nad oedd yn gallu galw ar ffrindiau, teulu neu gymdogion i ofyn am help i wneud siopa, danfon meddyginiaeth ac ati. Darparwyd cymorth i ddechrau trwy baru gwirfoddolwyr ac yna fe symudon ni ymlaen i ddefnyddio staff a adleoliwyd dros dro o wasanaethau eraill yn y cyngor. Anogwyd gwirfoddolwyr i gofrestru gyda Chymorth Cymunedol a Gwirfoddol Conwy (CVSC) i gael eu paru â sefydliadau lleol. Mae gan CBS Conwy gytundeb â nifer o siopau lleol a’r ddwy siop Tesco yn y sir i gymryd taliad dros y ffôn gan unigolion sy'n defnyddio'r GCC ar gyfer ceisiadau siopa. Pan fydd Staff Conwy wrth y til, mae'r siop yn ffonio'r cwsmer sydd wedyn yn talu am ei siopa dros y ffôn. Mae yna broses mewn lle hefyd i gynorthwyo os nad oes gan unigolion fodd i dalu gyda cherdyn dros y ffôn. Mae'r gwasanaeth GCC wedi'i ostwng yn unol â llacio’r rheolau clo ac mae nifer y ceisiadau a dderbyniwn yn lleihau. Mae pob meddygfa a fferyllfa wedi cael gwybod ac wedi cael eu hannog i gofrestru gyda'r Groes Goch os oes angen cymorth arnynt i ddosbarthu presgripsiynau.

Fe greodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent Wasanaeth Ymateb Lleol yn cynnwys staff a adleolwyd i gefnogi'r galw cynyddol am gefnogaeth anstatudol yn ymwneud â chyfyngiadau COVID-19 pan oedd y pandemig yn ei anterth ac i ddiogelu gofal cymdeithasol rheng flaen. Fe weithiodd y gwasanaeth hwn yn agos gyda'r Trydydd sector i ddarparu cefnogaeth barhaus i breswylwyr drwy'r cyfnod hwn. Mae preswylwyr wedi eu cefnogi gyda cheisiadau grant, banciau bwyd, atgyfeiriadau parhaus am gefnogaeth arbenigol fel gydag iechyd meddwl, Cymorth Alcohol a Chyffuriau Gwent, gwasanaethau cefnogi pobl a’r gwasanaethau cymdeithasol os oedd angen. Ar ddechrau’r cyfnod clo a thrwy’r haf fe fu'r cyngor yn ymdrin â thros 1000 o geisiadau am gymorth gyda siopa, casglu presgripsiynau a gweithgareddau cyfeillio eraill. Wrth i’r cyfyngiadau lacio ac wrth i bobl roi’r gorau i warchod eu hunain am y tro, edrychodd y cyngor ar yr opsiynau a ran lleihau’r gwasanaeth. Cysylltodd y tîm yn uniongyrchol gyda'r holl achosion agored i sicrhau y gallant drosglwyddo i drefniant mwy cynaliadwy o ran cefnogaeth.

Mae Maenordy Llancaiach Fawr yn atyniad i dwristiaid wedi ei leoli yn Nelson, Caerffili, sy'n portreadu bywyd yn 1645 drwy ddehongliad byw i tua 60,000 o ymwelwyr a phlant ysgol bob blwyddyn. Hefyd mae yna ystafelloedd cynadledda, canolfan addysg, caffi, tŷ bwyta a siop anrhegion.

Yn ystod y cyfnod clo, fe wirfoddolodd y mwyafrif o staff i gael eu hadleoli i’r cynllun cyfeillio, i gasglu presgripsiynau a siopa ar gyfer preswylwyr diamddiffyn y fwrdeistref sirol a oedd yn gwarchod eu hunain. Ymunodd eraill â Thîm y Rhaglen Tracio ac Olrhain

Mae canolfan addysg wedi ei haddasu dros dro i weithredu fel canolbwynt dosbarthu. Caiff rhoddion eu casglu gan staff a chaiff parseli eu creu i’w dosbarthu i fanciau bwyd.

Mae’r bar a’r tŷ bwyta wedi eu defnyddio ar gyfer darparu canolbwynt gofal plant a gaiff ei gynnal mewn partneriaeth â Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, y gwasanaeth Ysgol a Cherddoriaeth, Tîm Datblygu’r Celfyddydau a’r Gwasanaeth Ysgolion Iach er mwyn lleddfu materion yn ymwneud â gofal plant yn ystod gwyliau’r haf ar gyfer Gweithwyr Golau Glas.

Mae paratoadau ar gyfer y ‘normal newydd’ wedi cynnwys darparu gweithdai arlein a darparu gwasanaeth allgymorth i ysgolion. Mae’r caffi wedi ailagor a’r gerddi ffurfiol ac ardal y patio yn cynnwys seddi i eistedd yn yr awyr agored. Mae prydau i fynd a’r cinio dydd Sul wedi mynd o nerth i nerth.  

Cafodd Gwasanaeth Diogel ac Iach Cyngor Castell-nedd Port Talbot ei sefydlu ar ddechrau cyfnod y coronafeirws i gefnogi preswylwyr a oedd yn gwarchod eu hunain ac nad oedd ganddynt neb i’w ffonio am gymorth gyda thasgau dyddiol fel siopa a chasglu meddyginiaethau.

Cafodd grwpiau eraill o bobl a oedd angen cefnogaeth eu nodi gan aelodau a swyddogion hefyd, gan gynnwys pobl oedd angen hunan ynysu ac nad oeddent yn derbyn unrhyw gefnogaeth, gofalwyr ifanc, rhieni plant oedd yn gymwys am brydau ysgol am ddim nad oeddent yn gallu derbyn taliadau BACS, a gofalwyr pobl oedd yn gwarchod eu hunain ac yn hunan ynysu.

Derbyniodd tua 1,300 o bobl gefnogaeth gan y gwasanaeth rhwng diwedd Mawrth 2020 a diwedd Mehefin 2020.

Sefydlwyd canolfan fwyd lle roedd staff o nifer o wahanol adrannau’n cydweithio i gael bwyd, sicrhau ei fod yn cael ei storio’n ddiogel, ymdrin a dosbarthu, gwneud y gwaith dosbarthu, cadw cofnodion da, paratoi bwydlenni iach oedd yn darparu ar gyfer gofynion deietegol penodol, a sicrhau darpariaeth bwyd brys pan oedd amgylchiadau’n gofyn am hynny. Cafodd y trefniadau hyn eu nodi gan Lywodraeth Cymru fel enghraifft o arfer da.

Fe wirfoddolodd tua 100 o weithwyr yn eu hamser eu hunain a chofrestrodd tua 450 o breswylwyr i fynegi diddordeb mewn gwirfoddoli gyda’r gwasanaeth. Cafodd gwirfoddolwyr eu hyfforddi ac yna aethant ati i weithio gyda chynghorwyr lleol i gefnogi'r gymuned leol. Fe fydd Cydlynydd Gwirfoddolwyr yn cael ei recriwtio er mwyn cefnogi'r prosiect a’i weithgarwch ac mae strategaeth yn cael ei datblygu gyda mewnbwn gan gynghorwyr a sefydliadau cymunedol i sefydlu’r hyn fydd ei angen yn y ‘normal newydd'.

Drwy weithio ar draws adrannau i ymateb i’r angen i ddarparu grantiau i fusnesau lleol, roedd Cyngor Sir Penfro, awdurdod lleol bach, yn gallu mynd yn fyw gyda grantiau o fewn dyddiau a nawr mae wedi darparu dros £52M i'r economi leol. 

 

Roedd y cyngor yn defnyddio cymysgedd o reolaeth matrics a secondiadau i dynnu staff i mewn o adrannau Adfywio a Datblygu Economaidd, Refeniw a Budd-daliadau, y Timau Cyllid Allanol a Chyllid a Chyflogadwyedd. Roedd rhan o hyn yn gydnabyddiaeth nad oes gan yr un tîm unigol y sgiliau i gyflawni popeth ac roedd yna ofyniad i weithio fel 'Tîm Sir Benfro’.

Mae gan Gyngor Gwynedd raglen hyfforddi sydd wedi’i ddatblygu’n dda ar gyfer staff a chynghorwyr. Mae CLlLC yn darparu hyfforddiant i gynghorwyr fel rhan o’r rhaglen hon, gan ddefnyddio dull hyfforddi/mentora hybrid i gefnogi gwaith cynghorwyr mewn cymunedau ac yn y cyngor. Yn ystod y pandemig, mae’r hyfforddiant hwn wedi cael ei gynnal ar-lein drwy Microsoft Teams. Dywedodd un o’r cynghorwyr sy’n cymryd rhan, “Yn gyffredinol, rwy’n credu bod yr hyfforddiant rwyf wedi’i dderbyn gan CLlLC wedi chwarae rhan hanfodol yn fy natblygiad fel aelod cabinet ac fel cynghorwr.  Ers y cyfnod clo, rydym wedi parhau i gael sesiynau, ac os rhywbeth, rwy’n credu bod yr elfen ddigidol wedi gwella pethau.  Yn logistaidd, mae’n llawer haws ac yn golygu llai o amser a theithio.  Nid wyf yn credu bod hyn wedi newid dynameg y berthynas hyfforddi, yr unig senario bosibl rwy’n credu y byddai sesiwn hyfforddi wyneb yn wyneb yn well na sesiwn ddigidol, fydd y sesiwn/sesiynau dechreuol.  Roeddwn eisoes wedi datblygu perthynas gweithio gyda fy hyfforddwr cyn newid o sesiynau wyneb yn wyneb i sesiynau digidol, ac felly efallai bod y sgwrs wyneb yn wyneb yn bwysig yn ystod y camau dechreuol.  Hoffwn barhau gyda’r sesiynau digidol, hyd yn oed pan fydd “pethau yn mynd yn ôl i’r arfer”.

Ar ôl dysgu o’r hyfforddiant digidol yn ystod COVID, bydd CLlLC yn cynnig hyfforddiant ar-lein, ac os yw’n bosibl, sesiwn ddechreuol wyneb yn wyneb.

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint (FLVC) i sicrhau bod pobl ddiamddiffyn yn derbyn y gefnogaeth briodol.  Cyn Covid-19, roedd gan (FLVC) fynediad i gyfeiriadur o fudiadau cymunedol cymeradwyedig h.y. bod y sawl a gyfansoddwyd wedi derbyn hyfforddiant priodol, a bod polisïau ar waith, megis diogelu. Mae’r Cyfeiriadur yn cael ei ddiweddaru wrth i grwpiau cymunedol newydd sefydlu. Mae FLVC yn cyflogi dau aelod o staff o fewn y tîm Un Pwynt Mynediad (SPoA), sy’n cyfeirio ac yn cefnogi unigolion i gael mynediad i’r gefnogaeth gwirfoddol a chymunedol sydd ar gael ar draws Sir y Fflint. Mae aelodau o staff sydd ar ffyrlo o fudiadau sy'n gweithio'n agos gyda'r Cyngor wedi cael eu hannog i wirfoddoli drwy wefan Gwirfoddoli Cymru.  Mae dros 200 o bobl wedi cofrestru i wirfoddoli yn Sir y Fflint, gydag 84 o unigolion yn dewis gwirfoddoli i’r cyngor, yn ogystal â chynnal hyfforddiant rhithiol. Gyda’n gilydd rydym yn brwydo yn erbyn y Coronafeirws Covid-19 

https://wlga.cymru/good-council-practice-workforce