Canllaw ar gyfer Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol

 

Canllaw drafft - Integrated commissioning of services for families, children and young people with complex needs

Saesneg yn unig

Pecyn gwaith drafft - Integrated commissioning of services for families, children and young people with complex needs

Saesneg yn unig

 

Y canllaw drafft hwn yw'r gyntaf i'w chynhyrchu gan y Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol yng Nghymru wedi’i dargedu at Gomisiynu Plant. Mae canolbwynt y canllaw yn cydnabod heriau cynyddol sy’n wynebu comisiynwyr sector gyhoeddus gwasanaethau plant ar ben uchaf y continwwm anghenion. Dyma lle mae dull integredig gan asiantaethau partner yn hanfodol er mwyn llywio llwybr llwyddiannus trwy’r rhwystrau posib a chymhlethdodau o greu pecyn gofal a chymorth cydlynus, wedi’i ganolbwyntio ar y plentyn, sy’n darparu canlyniadau cadarnhaol ar gyfer y plentyn / unigolyn ifanc a’u teuluoedd. Cynulleidfa darged y canllaw hwn yw:

 

  • Comisiynwyr Gwasanaethau Plant
  • Comisiynwyr Byrddau Iechyd Lleol
  • Comisiynwyr CAMHS
  • Comisiynwyr Awdurdodau Addysg Lleol, partneriaid darparu gwasanaethau eraill (megis timau troseddau ieuenctid) ac yn arbennig y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yng Nghymru

 

Dyluniwyd y canllaw hwn i gynorthwyo'r saith Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yng Nghymru i ddatblygu dull integredig i gomisiynu gwasanaethau i blant a phobl ifanc gydag anghenion cymhleth.  Mae Canllaw a gyflwynwyd o dan Rhan 9 o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gofyn i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol flaenoriaethu’r integreiddiad o wasanaethau mewn perthynas â phlant gydag anghenion cymhleth o ran anabledd neu salwch.  Dyluniwyd y canllaw hwn i gefnogi Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol gyda’r gwaith.

 

Mae’r Atodiad yn y canllaw (pecyn gwaith drafft) yn darparu offer ymarferol y gellir eu defnyddio i wirio iechyd y rhanbarth ac ystyried y camau nesaf i weithredu newidiadau a all ddarparu’r arfer orau.  Mae’n debygol y bydd cynllunio ar gyfer beth fydd yn digwydd nesaf yn wahanol ym mhob Rhanbarth gan fod bob un ar wahanol gam yn y broses o gynllunio a darparu. 


Mae rhagor o wybodaeth gan: Maria Bell

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30