Sut rydyn ni’n gweithio

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn sefydliad trawsbleidiol, ac mae ein trefniadau gwneud penderfyniadau yn wleidyddol gytbwys, ac yn adlewyrchu cyfansoddiad gwleidyddol cyfunol yr awdurdodau sy’n aelodau.

 

Aelodau CLlLC sy’n ei harwain – a hynny trwy ein prif gyrff penderfynu:

 

  • Cyngor ac ynddo 79 o gynghorwyr sy’n cynrychioli pob bro yn ôl ei phoblogaeth
  • Bwrdd Gweithredu ac ynddo arweinyddion y 22 awdurdod lleol

 

Trwy’r weithdrefn honno, mae cyswllt uniongyrchol â threfniadau llywodraethu CLlLC a phob etholwr yng Nghymru. Bydd etholwyr yn pleidleisio dros ymgeiswyr yn etholiadau’r cynghorau lleol. Bydd y cynghorwyr yn eu tro yn ffurfio trefnau llywodraethu ac yn ethol arweinyddion. Etholir yr arweinyddion a’r cynghorwyr hynny wedyn yn aelodau o Gyngor a Bwrdd Gweithredu CLlLC.

 

Mae Is-bwyllgor Rheoli a Phwyllgor Archwilio gan CLlLC, hefyd.

 

Er mai Plaid Llafur yw cylch gwleidyddol mwyaf CLlLC ac mae’r Arweinydd a’i ddirprwyon wedi’u hethol o blith aelodau’r cylch hwnnw, mae CLlLC yn gweithredu trwy gydsyniad ar draws yr amryw gylchoedd gwleidyddol eraill – y Cynghorwyr Annibynnol, y Blaid Geidwadol, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Mae’r Arweinydd a rhai aelodau eraill o Gyngor CLlLC yn gweithredu’n llefarwyr dros bob gwasanaeth ym maes llywodraeth leol megis materion ariannol, addysg, gofal cymdeithasol, llyfrgelloedd a hamdden.

 

Yn ôl Cynllun y Partneriaethau Statudol, sydd wedi deillio o Ddeddf Llywodraeth Cymru, CLlLCyw’r unig gorff sy’n cael cynrychioli maes llywodraeth leol mewn trafodaethau. Felly, bydd ei llefarwyr yn cynrychioli pawb ym myd llywodraeth leol wrth drafod telerau gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth San Steffan ac unrhyw bartneriaid cenedlaethol eraill yn y maes dan sylw. At hynny, mae tîm bychan o swyddogion a chymdeithasau proffesiynol yn cynnig arbenigedd a chymorth ar gyfer lobïo, materion gwella a gwaith llunio polisïau.

 

Mae CLlLC yn hyrwyddo rôl bwysig y cynghorau lleol ymhlith aelodau’r Senedd Cymru gan geisio diogelu enw da’r cynghorau a hwyluso newidiadau buddiol yn y gyfraith.

 

Mae llawer o waith CLlLC yn ymwneud â’r Senedd, Llywodraeth Cymru a phartneriaid perthnasol eraill yng Nghymru. At hynny, mae CLlLC ymwneud â Swyddfa Cymru ac yn cydweithio’n agos â Chymdeithas Llywodraeth Leol Lloegr yn Llundain ynglŷn â cheisio dylanwadu ar bolisïau a deddfau sydd heb eu datganoli. Hanfod gwaith CLlLC yw ymgysylltu â gweinidogion, aelodau’r Senedd ac adrannau gwladol eraill. Felly, rydyn ni’n cyflawni cryn dipyn o lobïo.

 

Dyma brif agweddau ein gwaith:

 

  • cyfarfodydd llefarwyr WLGA â gweinidogion Llywodraeth Cymru;
  • craffu cyn deddfu ac wedyn ar y cyd â’r Senedd Cymru, Senedd San Steffan ac Senedd Ewrop;
  • llunio polisïau ar y cyd â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan;
  • ymgysylltu â’r undebau llafur;
  • cydweithio ag amryw arolygiaethau Cymru;
  • cynnig cymorth ar gyfer gwella megis adolygu trwy gymheiriaid, gweithgareddau datblygu a hyfforddi cynghorwyr a ffyrdd o ledaenu arferion da;
  • trefnu cynadleddau, seminarau, gweithdai a hyfforddiant;
  • cyhoeddi adroddiadau, llawlyfrau ac adnoddau ar y we;
  • cyfathrebu, gwaith gyda’r wasg a chyfryngau cymdeithasol.

 

Mae CLlLC wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywioldeb a’r Gymraeg. At hynny, mae wedi ymrwymo i hwyluso llwyddiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.


 

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30