Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cynrychioli lles llywodraeth leol ac yn hybu democratiaeth leol yng Nghymru.
Ein nod yw hyrwyddo, diogelu, cefnogi a datblygu llywodraeth leol ddemocrataidd a buddiannau awdurdodau lleol yng Nghymru.
Rydym yn sefydliad trawsbleidiol dan arweiniad gwleidyddol sy’n ceisio rhoi llais cryf i lywodraeth leol ar lefel genedlaethol. Mae CLlLC yn sefydliad aelodaeth sy’n cynrychioli'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, mae’r 3 awdurdod tân ac achub a’r 3 awdurdod parc cenedlaethol yn aelodau cyswllt.
Rydym yn credu fod gwasanaethau’n cael eu darparu orau o fewn fframwaith democrataidd o atebolrwydd lleol ac y dylai pobl sy'n defnyddio gwasanaethau cyhoeddus gael cymaint o lais â phosibl yn y ffordd maent yn cael eu trefnu, rheoli a’u hariannu. Ystyrir mai Llywodraeth Leol yw’r haen o lywodraeth agosaf at ddefnyddwyr gwasanaethau ac sy’n gallu ymateb orau i’w hanghenion. Rydym yn cefnogi rôl Llywodraeth Cymru o ran gosod y strategaeth ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn genedlaethol ond credwn mai mater i lywodraeth leol yw dehongli strategaeth i ddarparu gwasanaethau yn seiliedig ar amgylchiadau lleol a blaenoriaethau lleol.
Mae llawer o’n gwaith yn canolbwyntio ar Senedd, Llywodraeth Cymru a budd-ddeiliaid a phartneriaid cenedlaethol eraill. Rydym hefyd yn cysylltu â Swyddfa Cymru a Llywodraeth y DU ac yn gweithio’n agos gyda CLlL yn Llundain i geisio dylanwadu ar bolisïau a deddfwriaeth heb eu datganoli ac, yn benodol, adfer ar ôl COVID 19 ac ymateb i ddatblygiadau sy’n ymwneud â Brexit.
Mae ein gwaith yn cynnwys ymgysylltu â Gweinidogion, Aelodau'r Senedd, a sefydliadau cenedlaethol a llywodraethol eraill. Rydym yn hyrwyddo rôl bwysig llywodraeth leol i Aelodau'r Senedd ac yn ceisio gwella a diogelu enw da cynghorau a sicrhau newid cadarnhaol i ddeddfwriaeth. Felly, mae gwaith lobïo CLlLC yn helaeth.