Cyngor Cyswllt Cymru

Mae Cyngor Cyswllt Cymru yn fforwm lle gall cynrychiolwyr cyflogwyr (sef yr awdurdodau lleol) a gweithwyr (sef yr undebau llafur) llywodraeth leol gwrdd i drafod materion sy’n gyffredin iddyn nhw. Dyma rôl y cyngor:

  • Nodi materion sy’n hollbwysig i fyd llywodraeth leol Cymru yn rhinwedd ei swyddogaeth yn gyflogwr.
  • Meithrin cydsyniad a lledaenu’r arferion gorau ynglŷn â materion y gweithlu.
  • Astudio materion penodol yn fanylach. 
  • Llunio cyngor a chanllawiau ar y cyd am faterion y gweithlu.
  • Dysgu am newidiadau a datblygiadau perthnasol.
  • Galluogi byd llywodraeth leol Cymru a’i undebau llafur i gyfleu eu barn i amryw asiantaethau yng Nghymru a’r DG.
  • Adolygu cynnydd mentrau gwladol yng Nghymru.
  • Helpu’r cydysgrifenyddion i ddatrys anghydfod lleol. 

Bydd y cyngor yn cwrdd ddwywaith y flwyddyn ac mae’i aelodau wedi’u pennu yn ei gyfansoddiad. Bydd pob aelod ac aelod cyswllt o WLGA yn enwebu cynghorwyr a bydd pennaeth adnoddau dynol pob awdurdod yn cymryd rhan yn rhinwedd ei swydd.


Mae rhagor o wybodaeth gan: Jenna Redfern

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30