CLILC

 

Ein Nod

Safonau addysg gwladol ar waith yn lleol

Dysgu gydol oes

"Y ffordd orau o wella safonau addysg yw rhoi rhyddid i gynghorau lleol ymateb yn briodol ym mhob bro"

Mae byd llywodraeth leol yn gweithredu ers lles y rhai sy’n dysgu trwy bennu’r safonau uchaf ar gyfer trefn eu haddysg.

 

Rydyn ni am godi safonau, gwella deilliannau a chwalu’r cyswllt rhwng tlodi a chyrhaeddiad – a hynny trwy partneriaeth gref y cynghorau a Llywodraeth Cymru.

 

Mae cynnydd eisoes. Mae’r cyflawniad yn arholiadau’r Safon Uwch a TGAU yn well nag erioed, mae’r gwella’n codi stêm ac mae safonau addysgol cyffredinol y wlad ar i fyny.

 

Boed Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, ffyrdd newydd o gydweithio’n rhanbarthol neu gynnig gwasanaethau i’r ifanc, mae’r cynghorau lleol ar flaen y gad o hyd ynglŷn â gwella addysg yng Nghymru.

 

Rydyn ni o’r farn y dylai’r cynghorau lleol gael cyfle i wireddu uchelgeisiau Cymru ynglŷn â gwella’n barhaus trwy bennu cyllidebau a blaenoriaethau yn lleol.

 

Dylai addysg i’r rhai o dan 16 oed barhau ym maes llywodraeth leol, derbyn yr arian mae’n ei haeddu a chael ei llunio gan gynghorau sy’n atebol i bobl y fro.

 

Ar y cyd ag amrywiaeth helaeth o sefydliadau megis Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru (ADEW), hoffen ni ddylanwadu ar bolisi addysg y wlad a pharhau i wella deilliannau er lles dysgwyr yng Nghymru.


Mae rhagor o wybodaeth gan: Sharon Davies

Datganiadau i'r Wasg

https://wlga.cymru/lifelong-learning