BETH SYDD AR GAEL?
Mae gwaith cynghorydd yn gymhleth ac yn ymestynnol ac mae rhaid ymaddasu drwy’r amser yn ôl elfennau gwleidyddol, deddfwriaethol a lleol cyfnewidiol. Bydd cymunedau’n disgwyl i gynghorydd ragori o ddiwrnod ei ethol ymlaen. Mae angen cymorth, gwybodaeth a rhaglenni datblygu personol a phroffesiynol ar gynghorwyr newydd a phrofiadol fel ei gilydd i gyflawni rolau cymhleth o’r fath fydd yn parhau i esblygu.
"Cydweithio ag awdurdodau i gynnig cymorth a datblygu proffesiynol i gynghorwyr."
Mae WLGA yn cydweithio ag awdurdodau lleol ledled Cymru i gynnig y cymorth pwysig hwnnw i gynghorwyr, gan weithio ar y cyd â’r cynghorwyr eu hunain yn ogystal â’r swyddogion sy’n eu cynorthwyo.
Nodwch gall y gefnogaeth a'r hyfforddiant wyneb yn wyneb a amlinellir isod gael eu cyflwyno o bell trwy dimau Microsoft.
GWASANAETHAU CRAIDD
HYFFORDDIANT
Swyddogion WLGA fydd yn cynnal yr hyfforddiant a’r gweithdai oni nodir neu fynnir fel arall.
Gweithdai medrau cynghorwyr:
- Sgiliau cadeirio cyffredinol: Gweithdy rhyngweithiol sydd yn ymdrin â sgiliau allweddol sydd eu hangen i gadeirio cyfarfodydd yn effeithiol. Mae’n rhoi enghreifftiau o arferion da i Gynghorwyr ac yn eu hannog i ystyried eu perfformiad eu hunain fel cadeiryddion neu is-gadeiryddion.
- Cadeirio Craffu: Gweithdy rhyngweithiol sydd yn ymdrin â sgiliau allweddol sydd eu hangen i gadeirio cyfarfodydd yn effeithiol. Mae’r gweithdy yma wedi’i anelu at anghenion arbenigol cadeiryddion pwyllgorau trosolwg a chraffu.
- Sgiliau cwestiynu craffu: Bydd y gweithdy yma’n tynnu sylw aelodau at gwestiynu effeithiol wrth graffu, nid technegau cwestiynu’n unig - mae’n ymwneud â pharatoi, prosesau a gwaith tîm. Cwestiynau syml yw’r rhai mwyaf effeithiol ar adegau, ac nid oes angen i aelodau fod yn arbenigwr ar destun i ofyn cwestiynau da, na chael y wybodaeth mae’r cyhoedd yn poeni amdano.
-
Cydgraffu (mae hyn i gefnogi gwaith rhanbarthol, e.e. CBCau): Mae cydweithio'n dod yn fwyfwy amlwg ar draws Cymru, a bydd penderfyniadau'n cael eu gwneud ar lefel ranbarthol neu bartneriaeth sydd â goblygiadau pwysig i ddinasyddion lleol. Mae craffu effeithiol yn hanfodol wrth sicrhau bod cydweithio rhwng gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu dwyn i gyfrif. Bydd y gweithdy yma’n rhoi’r wybodaeth a dealltwriaeth sydd ei angen ar aelodau i ymgymryd â chydgraffu yn hyderus.
-
Sgiliau mentora: Gan gydnabod bod mentora anffurfiol yn chwarae rôl bwysig o fewn deinamig grwpiau gwleidyddol, mae’r gweithdy rhyngweithiol yma’n rhoi argymhellion, cyngor a chyfle i aelodau i ddatblygu sgiliau ymarferol wrth fentora aelodau newydd neu amhrofiadol.
-
Gweithdai penodol cyffelyb yn ôl y cais lle bo arbenigedd ar gael yn WLGA. Er enghraifft, gweithdai cynefino cynghorwyr newydd
Dwy awr fydd hyd gweithdy, fel arfer. Dim mwy na 15 cynghorydd bob tro. Mae modd rhoi gweithdy i gynghorwyr un awdurdod neu nifer o awdurdodau. Gellir darparu gweithdai drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg drwy cyfieithu ar y pryd.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Emily Griffiths
emily.griffiths@wlga.gov.uk