Mae Cynllun Partneriaeth Llywodraeth Leol yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ystyried buddiannau llywodraeth leol ym mhob agwedd ar ei gwaith. Mae’r Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru lunio Cynllun Llywodraeth Leol fel a ganlyn:
73 (1) Rhaid i Weinidogion Cymru lunio cynllun ("y cynllun llywodraeth leol") sydd yn nodi sut, wrth arfer eu swyddogaethau, y maent am gynnal a hybu llywodraeth leol yng Nghymru.
Ar ben hynny, mae Cynllun y Bartneriaeth yn dweud fel a ganlyn:
2.1 Mae Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yng Nghymru wedi ymrwymo i gydweithio mewn partneriaeth, gan ddangos parch ac ymddiriedaeth at ei gilydd a chydnabod bod rolau pob un yn llywodraethiant Cymru'n werthfawr a dilys.
Wrth benderfynu beth y dylid ei gynnwys yn y cynllun, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried unrhyw gyngor a roddwyd iddynt, ac unrhyw sylwadau a gyflwynwyd iddynt gan Gyngor Partneriaeth Cymru.