CLILC

 

Diwygio maes llywodraeth leol

Daeth gwaith Gweithgor Diwygio Llywodraeth Leol, a gadeiriwyd gan Derek Vaughan, i ben fis Mai 2019. Roedd y gweithgor yn cynnwys y Gweinidog dros Dai a Llywodraeth Leol, aelodau arweiniol CLlLC a chynrychiolwyr o’r undebau, y trydydd sector a'r sector busnes.

 

Drwy’r Gweithgor Diwygio mae CLlLC a Llywodraeth Cymru wedi cytuno ar y canlynol:

 

  • Ymrwymiad newydd i lywodraethu, trafod ac ymgysylltu mewn partneriaeth
  • Ymrwymiad i ddull diwygiedig i drafod materion ariannol yn fuan, gan gynnwys fframwaith newydd i amlinellu mecanweithiau a disgwyliadau
  • Fframwaith o ‘Egwyddorion Cydweithio
  • Prosbectws drafft ar gyfer Uno Gwirfoddol 

 

Drwy’r gweithgor hwn mae CLlLC wedi gwneud rhestr o drefniadau cydweithio a chynhyrchu Casgliad Cydweithiogyda manylion y gwasanaethau amrywiol a ddarperir ar y cyd gan awdurdodau. Mae aelodau CLlLC wedi cytuno y dylid diweddaru’r ddogfen hon yn rheolaidd a bod pob cyngor yn ei hystyried yn flynyddol er mwyn ei hadolygu ac ystyried trefniadau cydweithio newydd.  

Mae CLlLC hefyd wedi cytuno i ddatblygu ‘Cod Ymarfer Cydweithio’ yn ystod 2019-20 er mwyn hyrwyddo trefniadau cyd-lywodraethu da.

Drwy’r gweithgor mae’r Gweinidog dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i sefydlu Cyd-adolygiad o Bartneriaethau Strategol Llywodraeth Cymru / CLlLC ac wedi ymrwymo i ailsefydlu’r cymorth ar gyfer gwella a arweinir gan y sector o fewn CLlLC yn ystod 2019-20.

Nid yw'r gweithgor wedi cynhyrchu ‘adroddiad terfynol’ gan fod y grŵp wedi penderfynu ymgymryd â gwaith pan gytunir ar gamau gweithredu. Fodd bynnag, mae’r grŵp wedi llunio adroddiad ar weithgarwch sy’n cynnwys sawl argymhelliad ar gyfer gwaith yn y dyfodol.

Mae’r Cyngor Partneriaeth wedi sefydlu Is-Grŵp Diwygio newydd, sy'n cynnwys y Gweinidog dros Dai a Llywodraeth Leol ac aelodau arweiniol CLlLC, i barhau â’r drafodaeth ac i fwrw ymlaen â’r rhaglen ddiwygio, gan gynnwys datblygu Cydbwyllgorau Statudol.

Cydbwyllgorau Statudol

Ym mis Mai 2019 amlinellodd Llywodraeth Cymru gynigion ar gyfer model cydlywodraethu newydd neu Gydbwyllgorau Statudol, y mae’n bwriadu ei gynnwys yn y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).  

Bydd arweinwyr yn trafod datblygiad y model yn ystod yr haf, drwy’r Is-grŵp Diwygio. Bydd yr is-grŵp yn derbyn cefnogaeth Grŵp Tasg a Gorffen sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Gymdeithas Prif Weithredwyr ac Uwch-Reolwyr Awdurdodau Lleol Cymru, Cymdeithas Trysoryddion Cymru a chyfreithwyr llywodraeth leol.  

Diwygio maes llywodraeth leol

https://wlga.cymru/local-government-reform