CLILC

 

Astudiaethau achos NERS

Stori Jane - Claf canser Fersiwn PDF

Ym mis Gorffennaf 2011, ces i wybod bod canser y colon a'r rhefr arna i. Ym mis Awst 2011, ces i echdoriad y coluddyn ac yn ystod y chwe mis canlynol ces i gyfnod o gemotherapi. Tua diwedd y driniaeth, ro'n i'n teimlo mod i eisiau bod yn fwy bywiog fel y gallwn gynyddu fy ffitrwydd gyda'r bwriad o wella fy lles yn gyffredinol. O wneud hyn, ro'n i hefyd yn teimlo y basai gen i'r amodau gorau posibl wrth symud ymlaen i’r dyfodol pe baswn i'n gorfod cael rhagor o lawdriniaeth a thriniaethau eraill.

Es i i ymweld â fy nghanolfan hamdden leol yn Wrecsam lle siarades i'n anffurfiol hefo gweithiwr ymarfer corff proffesiynol. Yno, ro'n i'n gallu trafod y canser sy arna i a sut gallwn i gael fy atgyfeirio i NERS. Gwnaeth y gweithiwr ymarfer corff proffesiynol fy anfon at fy meddyg teulu ac ar y cyd gwnaethon nhw gydlynu ynghylch y broses fasa'n fy ngalluogi i ddechrau'r ymarfer corff.

Ers imi ddechrau ar fy rhaglen ymarfer corff dw i'n sylwi mod i'n symud yn gyflymach ac yn teimlo'n llai byr o anadl ar ôl bod yn cerdded yn sionc. Cafodd fy ngallu corfforol ei asesu a ches i fy nghefnogi drwy gydol y cyfnod atgyfeirio. Ro'n i wedi anghofio pa mor ddifyr gall ymarfer corff fod a bellach dw i'n gwneud nifer o weithgareddau yn rheolaidd. Dw i'n mwynhau'n arw y teimlad da dach chi'n ei gael yn dilyn pob sesiwn ymarfer corff, boed yn sesiwn yn y gampfa, dosbarth hyfforddiant cylchol yn y dŵr, seiclo neu gerdded Nordig. Dw i'n mwynhau'n fawr y ffaith mod i'n gallu gwneud mwy yn fy mywyd beunyddiol yn gyffredinol ac mae'r cryfder corfforol a meddyliol sy'n dod yn sgil ymarfer corff  yn fy helpu bob dydd ac yn fy ngalluogi i ddygymod â phob un o anawsterau bywyd bydda i'n eu hwynebu. Drwy wneud nifer o sesiynau ymarfer corff, dw i'n gweld bod nerth fy nghorff wedi cynyddu ac, yn gryno, dw i'n teimlo'n wych!

Ers gorffen y cynllun, dw i'n mwynhau cwsg yn fwy nag yr o'n i'n arfer gwneud er gwaethaf y ffaith mod i ddim yn cysgu'n ofnadwy o dda. Dw i'n meddwl bod hyn yn deillio o'r ffaith bod fy nghorff wrth reswm yn fwy blinedig y dyddiau hyn oherwydd y gweithgarwch corfforol rheolaidd. Yn y bôn mae gen i fwy o 'wmff', yn enwedig ar ôl imi wneud ymarfer corff. Yn feddyliol, rwy'n teimlo llawer yn fwy effro ac yn fwy bywiog drwyddi draw ac mae hynny yn fy helpu wrth imi wneud pethau bach bob dydd.

A minnau'n glaf canser y colon a'r rhefr yng nghyfnod 4, dw i eisoes wedi gorfod dod i delerau ag ail gylch o lawdriniaeth a chefais mod i'n gryfach wrth i'r llawdriniaeth nesáu, yn feddyliol ac yn gorfforol. Ar ben hynny, roedd y cyfnod adfer yn gyflymach ac yn haws gan fy mod llawer yn fwy iach cyn y llawdriniaeth ar yr afu. Yn arwydd o hynny, dim ond dau ddiwrnod ar ôl gadael yr ysbyty, ro'n i'n defnyddio beic ymarfer corff am tua 10 munud ar y tro sawl gwaith y dydd.

O ran rheoli fy nghyflwr yn y dyfodol, mae'r ffaith bod canser y colon a'r rhefr arna i yn bryder mawr a chyson a bydda i'n teimlo weithiau bod y byd yn dod i ben ac yn anaml iawn bydd y canser yn gadael fy meddyliau. Mae gwneud ymarfer corff yn rheolaidd serch hynny wedi fy helpu i ffocysu fy meddyliau o'r newydd ac o ganlyniad i hyn oll dw i'n gryfach person. Dw i'n ymwybodol iawn mai go annhebyg y bydda i'n llwyddo yn erbyn y canser ond dw i'n teimlo'n fwy parod os bydd angen rhagor o lawdriniaeth neu driniaethau yn y dyfodol.

Baswn i'n argymell cynllun NERS yn fawr i gleifion eraill â chanser a bydda i'n sgyrsio'n aml am fanteision gweithgarwch corfforol rheolaidd mewn seminarau ledled y wlad, ar-lein drwy'r cyfryngau cymdeithasol a thrwy Brosiect Gweithgarwch Corfforol Macmillan … yn y bôn unrhyw le o gwbl lle galla i annog rhagor o bobl i wneud yr hyn dw i wedi'i wneud ac i fod yn fwy gweithgar yn gorfforol.


Stori Joan Fersiwn PDF

Fy enw i yw Joan a dw i’n 92 mlwydd oed. Cefais fy atgyfeirio i’r dosbarthiadau cryfder a chydbwysedd achos ro’n i’n arfer cwympo.

Cwympais i’n go hegar yn Asda ac roedd rhaid imi fynd i adran y damweiniau ac achosion brys (A&E) lle dywedon nhw wrtha i fy mod wedi torri’r glun dde. Roedd rhaid imi gael llawdriniaeth ar dor y cymal a bues yn yr ysbyty nes iddo wella. 

Pan gyrhaeddais i gartref daeth ffisiotherapydd o’r ysbyty i ymweld â mi i asesu i ba raddau ro’n i’n gallu dygymod â phethau beunyddiol yno. Gosodon nhw ganllawiau yn y gawod ac wrth y drws ffrynt. Ymhlith y pethau eraill a osodon nhw yn dilyn yr ymweliad roedd sedd doiled uwch a ffrâm o amgylch y toiled. Galla i gerdded o amgylch fy nghartref gan ddefnyddio fy nhroli â thair olwyn a dw i’n gallu cludo pethau o’r naill ystafell i’r llall drwy ddefnyddio’r hambwrdd ar y ffrynt heb arlwys neu ollwng pethau. Oherwydd yr ategolion cymorth hyn, dw i’n teimlo mod i’n gallu ymdopi’n fwy annibynnol. 

Roedd y ffisiotherapydd a ddaeth i ymweld â mi wedi fy atgyfeirio i Glinig Cwympiadau Ysbyty Maelor Wrecsam, lle ro’n i wedi gwneud yr ymarferion ffisiotherapi. Mynychais y sesiynau hyn am 12 wythnos cyn iddyn nhw ddweud wrtha i y basan nhw’n fy atgyfeirio i’r dosbarthiadau cryfer a chydbwysedd ac felly ro’n i’n gallu parhau i wneud yr ymarferion ar ôl i gwrs yr ysbyty orffen. Cefais i alwad ffôn yn fuan gan yn o’r merched sy’n rhedeg y cwrs a dywedon nhw wrtha i beth i’w ddisgwyl a gofynnon nhw imi ddod i mewn ar gyfer asesiad.

Yn y dosbarth dan ni’n gwneud rhai ymarferion tra’n eistedd ac yna rai ymarferion tra’n sefyll. Dydy pawb ddim yn sefyll, dach chi’n gwneud beth gallwch chi ei wneud. Dan ni’n defnyddio Thera Band i wneud peth gwaith cryfhau’r cyhyrau ac yna rai ymarferion cydbwyso pwysig iawn. Mae gynnon ni hefyd lyfryn i fynd ag o adref fel ein bod ni’n gallu gwneud ymarferion gyda’r band.

Dw i’n hynod o falch fy mod i wedi cael y gofal parhaus ac o wneud yr ymarferion corff am sut gymaint o amser gan eu bod nhw’n hanfodol i fy iechyd a lles.

Dw i’n mwynhau’r dosbarthiadau’n arw a dw i wrth fy modd yn cwrdd â phobl. Dw i’n teimlo sut gymaint yn fwy symudol a hyderus ac mae’r dosbarthiadau yn rhoi’r cymhelliant imi wneud yr ymarferion. Mae hefyd yn fy helpu i fod yn nain fwy gweithgar. Yn dilyn yr ymarferion hyn ro’n i’n teimlo’n ddigon da i gael cath a dw i’n gallu edrych ar ei hôl hi ar fy mhen fy hun.

Dw i wedi derbyn gofal ofnadwy o dda a baswn i’n argymell y dosbarthiadau i bobl eraill fel fi.


Stori Bob - Strôc astudiaeth achos Fersiwn PDF

Ym mis Chwefror 2013 cefais strôc yn dilyn clot yn y rhydweli garotid (rhwystr o 90%). Effeithiodd y strôc ar fy ochr dde ac ers hynny mae gen i wendid yn fy mraich ac yn fy nghoes ac rwy'n gwisgo dellten (AFO) i roi cefnogaeth i fy migwrn. Mae dysffasia mynegiant arna i hefyd sy'n golygu mod i'n gallu deall beth mae pobl yn ei ddweud wrtha i ond mae fy mynegiant yn gyfyngedig felly gall cyfathrebu â phobl fod yn broblem. Ces i fy atgyfeirio gan fy ffisiotherapydd yn yr ysbyty i'r cynllun atgyfeirio ar gyfer ymarfer corff ym mis Awst 2013.    

Roedd yn hawdd iawn dechrau hefo'r cwbl. Cawson ni alwad gan y gweithiwr ymarfer corff proffesiynol a siaradodd â fy ngwraig cyn mynd ati i drefnu apwyntiad. Es i at y ffisiotherapydd i gael fy asesu a chawson ni sgwrs am y strôc a fy iechyd yn gyffredinol, diben y cynllun a'r dosbarth gorau imi ei fynychu sef dosbarth ailsefydlu cylchol yn dilyn strôc a gafodd ei greu'n benodol i wella gallu gweithredol y sawl sy wedi goroesi strôc.

Mae'r cynllun wedi bod yn rhagorol. Do'n i ddim eisiau mynd i gampfa neu orfod cymysgu â phobl eraill oherwydd fy lleferydd ond mae'r dosbarth ailsefydlu yn dilyn strôc wedi fy helpu i gymysgu â phobl eraill sy wedi dioddef strôc. Yno, sylwais i nad o'n i ar fy mhen fy hun ac y gallwn i wella. Roedd rhychwant eang o bobl yn y dosbarth o ran oedran a gallu, roedd rhai pobl mewn cadair olwynion a rhai pobl na fyddech chi'n sylwi o edrych arnyn nhw eu bod wedi cael strôc, ac mae pawb sy wedi bod yn mynychu ers meitin yn awyddus i ddweud wrth rywun newydd yno sut beth roedd eu cyflwr pan ddechreuodd a'r graddau maen nhw wedi gwella. Mae'r ddau hyfforddwr yn y dosbarth yn gweithio gyda chi, maen nhw'n eich annog i wneud yr ymarferion yn ddiogel gan addasu unrhyw ymarferion rydych chi'n eu cael fymryn yn fwy heriol fel y gallwch chi gyflawni pob un ohonyn nhw.   

Dw i wedi mwynhau'r profiad i gyd a dw i wedi bod yn mynychu'r dosbarth ers 8 mis erbyn hyn. Dw i'n mynychu'r dosbarth tua dwywaith yr wythnos a dw i'n teimlo fy mod i'n rhan o'r grŵp gan fod pawb mor gyfeillgar ac rydyn ni'n chwerthin hefo'n gilydd. Mae fy ffitrwydd a nerth fy nghorff wedi gwella a bellach dw i'n defnyddio ffon gerdded yn gymorth yn hytrach na ffon cwad. Mae fy ngwraig yn mwynhau dod i'r dosbarth hefyd gan ei bod yn gallu fy helpu gyda'r ymarferion ac mae'n teimlo ei bod yn cymryd rhan weithgar mewn popeth wrth imi wella ac mae hefyd o les iddi hi siarad â'r bobl eraill sy'n mynychu a hefo'u partneriaid.

Ers cwblhau'r cynllun bydda i'n fwy gweithgar, bydda i'n gwneud fy ymarferion corff gartref ac yn cerdded yn hirach bob dydd o amgylch y parc pan fydd y tywydd yn braf. Dw i'n gallu ysgrifennu tipyn bach bellach gan fod fy mraich erbyn hyn yn gryfach o lawer a dw i'n gallu gwneud Sudoku unwaith eto! Dw i'n teimlo'n well, bydda i'n llai blinedig a dw i'n gwneud sut gymaint yn fwy gartref ac yn y dosbarth ac ar ben hynny dw i'n gallu chwarae hefo fy wyres unwaith eto. Dw i'n teimlo mod i'n gwella bob amser o ran fy ffitrwydd a fy ngallu gweithredol yn ogystal â fy lleferydd a fy sgiliau cyfathrebu.

Baswn i'n argymell yn fawr y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff i unrhyw un sy wedi dioddef strôc.  


Stori John - Taith fythgofiadwy – rhwng angen ac angau Fersiwn PDF

Fis Rhagfyr 2013, fe es i at y meddyg ar ôl dioddef â diffyg traul drwy gydol y nos.  Gan nad oedd y meddyg ar gael, defnyddiodd nyrs beiriant dadansoddi’r galon a dweud y dylwn i fynd i’r ysbyty lle roedden nhw’n fy nisgwyl.  Dyna oedd dechrau tipyn o daith.

Ymadawais ag Ysbyty Treforys dair wythnos wedyn ar ôl llawdriniaeth i agor rhai o wythiennau’r galon ac roedd hynny’n dipyn o ysgytwad i mi. Ar ôl yr ymweliad â’r meddyg dair wythnos cynt, roedd pethau wedi mynd o ddrwg i waeth – profion yn Ysbyty’r Llwyn Helyg, trosglwyddo i Dreforys ar gyfer rhagor o brofion a llawdriniaeth.

A minnau wedi bod yn rhwyfo ar y môr y diwrnod cyn ymweld âr meddyg, roedd braidd yn annisgwyl na allwn i ddringo ychydig o grisiau heb anawsterau ar ôl y llawdriniaeth, ond roedd holl gyffro’r daith heb ddechrau eto.

Roedd y newidiadau’n araf iawn i ddechrau.  Rwy’n cofio cadw dyddiadur gan fesur pa mor hir y gallwn i gerdded (nifer y camau) heb orffwys. Roedd datblygiadau bob dydd. Roedd ymweliad nyrs gyswllt Sefydliad y Galon Prydain yn naid enfawr fodd bynnag am imi ymuno â thrydydd cam cynllun adsefydlu cleifion y galon o ganlyniad. Roedd cymorth nyrs clefyd y galon a’r arbenigwr dros atgyfeirio cleifion y galon ar gyfer ymarfer yn bwysig ynglŷn â thawelu fy meddwl am ymarfer yn ormodol. Trwy gadw golwg arna i a’m hannog i ymroi i’r cwrs (a oedd yn gwella cyflwr fy iechyd bob tro) roedden nhw’n cynyddu cyflymder y daith!

Roeddwn i’n ofnus ar y dechrau wrth wylio curiad fy nghalon yn cynyddu’n gyflym – yn arbennig pan ddechreuodd y monitor ddangos curiad y sawl wrth fy ochr a oedd yn gyflymach fyth.  Gyda chymorth y tîm, fodd bynnag, gallwn i symud ymlaen maes o law i bedwerydd cam y cwrs lle roedd yr ymarferion yn fwy ymestynnol. Unwaith eto, trwy wneud pob ymdrech i fynychu’r sesiynau i gyd ac elwa ar y monitro trylwyr gan yr hyfforddwr gallwn i weld yn y dyddiadur fy mod i’n gwella mwy a mwy bob wythnos.

Erbyn hynny, roeddwn i’n cymryd rhan mewn teithiau cerdded wedi’u trefnu gan a chydlynydd cerdded Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro. Roedd y teithiau wedi’u cynllunio a’u cynnal yn ofalus ac fe ges i gyfle i gwrdd â phobl a chymdeithasu mewn llecynnau prydferth iawn. Roedd y cynnydd yn cyflymu.

Ar ôl gorffen pedwerydd cam y cynllun adsefydlu, gallwn i ddechrau cynllun ymarfer cyffredinol a oedd yn debyg iawn am fod ynddo ddau neu dri sesiwn yr wythnos a thaith ar gerdded bob pythefnos. Roeddwn i’n ddigon hyderus erbyn hynny ynglŷn â threfn yr ymarfer a dechreuais i gymharu fy ymdrechion â rhai pobl eraill ar y we. Fe barhaodd y gwelliannau, hefyd.

Ar ôl 12 mis, ac archwilio terfynol gan David, roeddwn i wedi gorffen y rhaglenni i gyd a chyrraedd pen y daith lle y byddwn i’n rhydd i fwynhau anturiaethau ysgogol eraill. Mae’r daith wedi bod yn un gyffrous sydd wedi codi dychryn ar adegau ond, hefyd, wedi rhoi tipyn o foddhad. Allwn i ddim bod wedi llwyddo heb gymorth nyrs cleifion y galon, Paula, a’r hyfforddwr. Mae arni i ddyled fawr iddyn nhw a’r bobl eraill sydd wedi fy helpu megis y nyrs graff yn y feddygfa, staff Ysbyty’r Llwyn Helyg, tîm llawdriniaeth y galon Ysbyty Treforys, fy ngwraig, fy nheulu a’m cyfeillion sydd wedi gofalu amdana i a’m calonogi bob dydd.

Byddwn i’n cynghori pawb mewn sefyllfa debyg i gymryd rhan yn y cynllun ac ymroi iddo. Rhaid cadw at gyfarwyddiadau’r staff a cheisio gwella bob dydd, cymryd eich moddion yn ôl y gorchmynion, bwyta’n ddoeth a sylweddoli pa mor lwcus ydych chi. Gallech chi fod yn eich bedd yn hytrach.


 

 

 

 

 

 

 

 

 

https://wlga.cymru/ners-case-studies