CLILC

 

Adsefydlu Ynghylch Clefyd Anadlu

Mae'r llwybr hwn ar gyfer cleifion a chanddyn nhw glefyd anadlu sydd wedi gorffen cwrs ailsefydlu ysgyfeiniol sylfaenol ac a hoffai barhau i ymarfer o dan oruchwyliaeth mewn rhaglen 32 wythnos a fydd yn eu hannog i gydio mewn gweithgareddau corfforol dros y tymor hir. Mae Cynllun Atgyfeirio Cymru ar gyfer Ymarfer Corfforol wedi'i seilio ar arferion gorau'r DG, y dystiolaeth ddiweddaraf a safonau gwladol. Mae'r cynllun o dan nawdd Llywodraeth y Cynulliad ac mae Sefydliad Ysgyfaint Prydain, Prifysgol Ysbyty Caerlŷr, Prifysgol Gorllewin Morgannwg, Prifysgol Loughborough, yr awdurdodau lleol, y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol a'r byrddau iechyd lleol yn ymwneud ag e, hefyd.

 

Prif nodau’r cynllun

  • Cynnig ffordd drefnus a diogel o atgyfeirio cleifion sydd wedi gorffen ailsefydlu ysgyfeiniol clinigol fel y gallan nhw ddechrau cwrs cymunedol. 
  • Cynnig ffordd drefnus a diogel o atgyfeirio cleifion sydd wedi gorffen cwrs ailsefydlu cymunedol fel y gallan nhw ymarfer yn annibynnol. 
  • Cynnig cyfleoedd i gleifion ymarfer yn y gymuned mewn modd diogel ac effeithiol, yn ôl safonau gwladol. 
  • Gwella iechyd corff a meddwl pob claf yn ogystal â’i les. 
  • Cryfhau tuedd cleifion i gydio mewn gweithgareddau corfforol dros y tymor hir.

 

Safonau ansawdd

Mae protocolau'r cynllun wedi'u llunio yn ôl yr arferion gorau sy'n hysbys a chanllawiau presennol Cymdeithas Clefydon y Frest Prydain, Cymdeithas Clefydon y Frest America a Chymdeithas Clefydon Anadlu Ewrop. 

 

Meini prawf ynglŷn â derbyn cleifion

Mae'r cynllun ar gyfer cleifion fu'n ymwneud ag ailsefydlu ysgyfeiniol yn yr ysbyty. Mae'n defnyddio arbenigwyr sydd â chymwysterau priodol, ynghyd â phrotocolau perthnasol, i gynnal proses ailsefydlu ddiogel ym mhob ardal. Felly, mae meini prawf ynglŷn â phwy sy'n cael cymryd rhan. Cyfrifoldeb y cydlynydd fydd gofalu bod y cleifion yn cyd-fynd â'r meini prawf a rhoi gwybod i'r sawl sydd wedi'u hatgyfeirio os nad ydyn nhw. Os yw cyflwr claf yn newid yn ystod y broses ac nad yw'n cyd-fynd â'r meini prawf mwyach, dylai'r sawl sy'n goruchwylio'r ymarfer roi gwybod i'r cydlynydd fel y gall gymryd y camau priodol.

 

Diben y meini prawf yw gofalu bod cleifion yn ymarfer yn ôl y lefel briodol. 

 

Mae gan bawb sy'n goruchwylio'r ymarfer gymhwyster Hyfforddwr Ymarfer ynglŷn â Chlefyd Anadlu Parhaol. Mae cwrs y cymhwyster hwnnw'n cyd-fynd â'r safonau gwladol. 


Mae rhagor o wybodaeth gan: ners.wales@wales.nhs.uk

https://wlga.cymru/ners-respiratory-disease-pathway-