CLILC

 

Cynllunio

Mae rôl bwysig i drefn y cynllunio ym mywydau pawb trwy ddylunio, cadw a datblygu ardaloedd adeiledig a naturiol Cymru.  Rhaid ystyried ble a sut y byddwn ni’n gweithio, yn byw ac yn chwarae.

Mae rôl i gynllunio ynglŷn â hybu a datblygu adeiladu, diogelu a chadw’r amgylchedd, hwyluso datblygiadau masnachol ac economaidd, gwarchod ein treftadaeth bensaernïol a hyrwyddo safonau uchel o ran cynllunio adeiladau a rheoli’r amgylchedd.

Mae pob un o 25 awdurdod cynllunio Cymru (22 gyngor lleol ac awdurdodau’r tri pharc cenedlaethol) yn pennu fframwaith datblygu a defnyddio tir yn ôl polisi gwladol trwy baratoi cynllun datblygu lleol.  Maen nhw’n cael cydweithio ag awdurdodau cyfagos i’r diben hwnnw a sefydlu panel cynllunio strategol bellach yn sgîl Deddf Cynllunio Cymru 2015.

Mae gwasanaethau cynllunio’n wynebu sawl her:

  • Bydd dyletswyddau newydd o ganlyniad i newid y gyfraith (Deddf Cynllunio Cymru 2015 a Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol 2016) a bydd gofyn i awdurdodau cynllunio lleol weithio’n wahanol
  • Bydd mentrau rhanbarthol megis cytundebau dinasoedd yn mynnu i gynllunwyr ofalu eu bod yn cymryd rhan flaengar ac yn gallu helpu i’w cyflawni
  • Mae mwy a mwy o sylw ar weithredu’n well a newid meddylfryd maes cynllunio fel y gall pobl wneud rhagor
  • Yr un fath â sawl gwasanaeth, mae disgwyl iddo gyflawni rhagor er bod llai a llai o adnoddau ar gael

Dolenni:


Mae rhagor o wybodaeth gan: Tim Peppin

https://wlga.cymru/planning