Swyddog Cadernid a Diogelwch

Dyddiad Cau: Dydd Sul 2 Mehefin 2024

Dyddiad Cyfweliad: Dydd Llun 17 Mehefin 2024


Cyflog:                 Graddfa 5 SCP 33-41 (£41,418 - £49,498) yn amodol ar werthuso swyddi  

Tymor:                  Llawn Amser - Cyfnod Penodol tan 31 Mawrth 2027


Swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol:  Na

Cymraeg yn hanfodol: Na


Ynglŷn â’r Swydd                                

Mae’r swydd yn rôl amlochrog i reoli Rhaglen wedi’i hariannu gan grant, gyda chyfrifoldebau yn amrywio o oruchwylio cyllideb, datblygu achosion busnes ar gyfer cyllid parhaus, a darparu rhaglenni gwaith cysylltiedig. Mae’r rôl yn ymestyn i gynghori awdurdodau lleol ar ddyletswyddau statudol a meithrin gwelliant a chysondeb mewn gwasanaeth.

Y maes polisi craidd ar gyfer y swydd yw rheoli risg llifogydd ac erydiad arfordirol (FCERM). Yn y maes hwn, mae’n ofynnol i ddeiliad y swydd gydweithio’n agos gyda Changen Llifogydd Llywodraeth Cymru (Corff Grant) i gefnogi datblygiad a darpariaeth polisïau, y Strategaeth FCERM Cenedlaethol. Mae rhan o’r rôl hon hefyd yn ymwneud ag ymgysylltu ar lefel uwch gyda llywodraeth leol i ddatrys problemau sy’n codi yn y maes a hyrwyddo newid.

Mae hefyd yn ofynnol i’r deiliad swydd fod yn aelod mewn pwyllgorau a byrddau allweddol gan oruchwylio rhaglen gyfalaf rheoli risg llifogydd ac erydiad arfordirol a chynghori gweinidogion ar faterion yn ymwneud â llifogydd [Pwyllgor Llifogydd ac Erydiad Arfordirol (FCEC), Bwrdd Rhaglen Gyfalaf FCERM LlC]. Yn ogystal â hynny, mae cyfrifoldebau’n cynnwys cadeirio Fforwm Grwpiau Arfordirol Cymru.

Bydd hefyd yn ofynnol i’r deiliad swydd weithio’n agos gyda chydweithwyr i ddarparu Rhaglen Gefnogi Newid Hinsawdd CLlLC ac aelodau ehangach o’r tîm gan gynnwys yr arweinydd cynllunio.

Hefyd disgwylir i’r deiliad swydd roi mewnbwn i’r maes polisi diogelwch tomennydd glo trwy gefnogi’r Cyfarwyddwr RSD fel rhan o’r Tasglu Diogelwch Tomennydd Glo a bod yn rhan weithredol mewn cyfarfodydd a gweithdai perthnasol gan arwain at weithredu deddfwriaeth newydd ar ddiogelwch tomennydd glo.

 

Gwnewch gais Rŵan!

I gael sgwrs gychwynnol ynglŷn â’r swydd a’r sefydliad, cysylltwch â Jean-Francois Dulong, Swyddog Polisi Lliniaru ac Addasu Newid Hinsawdd ar 07436034914.

I wneud cais, anfonwch lythyr eglurhaol gyda ffurflen gais wedi'i chwblhau erbyn y dyddiad cau, Dydd Sul 2 Mehefin 2024  i: recruitment@wlga.gov.uk

Gwahoddir ymgeiswyr ar y rhestr fer i gyfweld panel dethol drwy Microsoft Teams ar  Dydd Llun 17 Mehefin 2024.                             

Efallai y bydd gofyn i ymgeiswyr ar y rhestr fer gwblhau tasg cyn bod yn bresennol yn y cyfarfod, yn ogystal â thasgau cyn cyfweliad ar y diwrnod, wedi’i ddilyn gan gyfweliad gyda phanel dethol.

Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o hunaniaeth a chymhwysedd i weithio yn y DU.


 

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30