CLILC

 

Cynghorau tref a chymuned

Mae dros 730 o gynghorau tref a bro yng Nghymru ac mae gyda nhw dros 8,000 o gynghorwyr. Nid ym mhob rhan o Gymru mae cynghorau o'r fath gan fod gweithdrefn i'w sefydlu neu eu diddymu yn ôl dymuniad y trigolion. Maen nhw'n cael pennu archebiant neu gyfradd y bydd y cyngor yn eu casglu ynghyd â'i dreth.

 

Mae lefel y gwasanaethau mae'r cynghorau hynny'n eu cynnig yn amrywio ledled Cymru ac er bod rhai'n fodlon cadw at gynrychioli yn bennaf, mae llawer yn rhoi amryw wasanaethau ar ran y gymuned megis cynnal a chadw:

 

  • neuaddau
  • llochesi teithwyr bysiau
  • mannau cyhoeddus
  • meysydd chwarae

 

Mae llawer o gynghorwyr sir mewn rhannau o Gymru yn aelodau o gynghorau tref a bro, hefyd. Mae'n bwysig i aelodau'r cynghorau unedol a'r cynghorau tref a bro gydweithio i gynrychioli eu cymunedau ac, yn yr un modd, mae'r cynghorau tref a bro yn cael eu hannog i gydweithio'n agos â'i gilydd, gan gwrdd yn rheolaidd a sefydlu protocolau ar gyfer cyfathrebu ac ymgynghori.

 

Yn genedlaethol, mae Un Llais Cymru ac WLGA yn cydweithio i hyrwyddo democratiaeth leol ac annog cynghorau lleol i weithio ar y cyd a lledaenu’r arferion gorau. O ganlyniad i hynny, cytunon nhw ar femorandwm dealltwriaeth a’i lofnodi. Mae’r memorandwm yn adlewyrchu llawer o egwyddorion siarterau lleol o ran ymgysylltu a chydweithio.

 


Mae rhagor o wybodaeth gan: Clover Rodrigues

https://wlga.cymru/town-and-community-councils