CLILC

 

Defnyddio rheolau caffael newydd Undeb Ewrop er lles ein cymunedau

Gwireddu'r dyfodol a chyflawni heddiw! Llawlyfr i gynghorwyr ac uwch reolwyr

Mae cynghorau lleol Cymru yn wynebu anawsterau nas gwelwyd erioed a bydd arweiniad cynghorwyr ac uwch swyddogion yn hollbwysig mewn sefyllfa o’r fath. Fe fydd rhaid i’r ymdrech i wella byd dinasyddion trwy wasanaethau cyhoeddus allweddol a hybu twf economaidd barhau ochr yn ochr â’r ymdrech i arbed adnoddau sylweddol.

O ganlyniad, ad-drefnir gwasanaethau cyhoeddus a datblygir ffyrdd newydd o’u cynnig.Yn rhan o’r broses honno, cyfunir gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol eto fyth, trosglwyddir nifer o wasanaethau i fentrau cymdeithasol a chydfuddiannol a sefydlir mwy a mwy o gyrff ar gyfer masnachu a chodi incwm. Ar ben hynny, mae bwriad i ad-drefnu maes llywodraeth leol.

Dyma becyn ar gyfer proffesiynolion caffael a chomisiynu yn ogystal â swyddogion eraill sy’n gyfrifol am wasanaethau, rhaglenni a phrosiectau. Mae’n ymwneud â’r ffordd orau o ddefnyddio Rheoliadau Cytundebau Cyhoeddus 2015 – rheolau caffael Undeb Ewrop – i gyflawni nodau’r cyngor, cliciwch yma. Cliciwch yma am fersiwn y gallwch argraffu.

Pecyn cymorth ar gyfer ymarferwyr

Mae’r pecyn hwn yn adnodd ar gyfer proffesiynolion caffael a chomisiynu yn ogystal â swyddogion eraill sy’n ymwneud â chynnal gwasanaethau a rhaglenni a rheoli prosiectau.  Mae’n esbonio’r ffordd orau o ddefnyddio Rheoliadau Cytundebau Cyhoeddus 2015 (Rheoliadau 2015) – rheolau Undeb Ewrop ynglŷn â chaffael – i gyflawni nodau’r cyngor, cliciwch yma.

  1. Pam mae angen y pecyn hwn? Cliciwch yma
  2. Sut rydyn ni’n cydweithio ym maes caffael? Cliciwch yma
  3. Sut y gallwn ni wella ein ffordd o brynu? Cliciwch yma
  4. Beth yw’r dewisiadau o ran prosiectau mawr? Cliciwch yma
  5. Pam y dylen ni ddefnyddio technoleg? Cliciwch yma
  6. Sut mae gwneud y gorau o fuddion cymunedol? Cliciwch yma

Mae rhagor o wybodaeth gan: Richard Dooner

https://wlga.cymru/utilising-the-new-eu-procurement-rules-to-benefit-our-communities