CLILC

 

Freinlen Cynorthwyo a Datblygu Cynghorwyr Cymru

Beth yw’r Freinlen?

 

Mae’r cynghorwyr yn wynebu mwy a mwy o heriau bellach. Yn sgîl moderneiddio, mae mwy a mwy o ddisgwyl iddyn nhw gyflawni amryw rolau megis arwain eu cymunedau yn ogystal ag ysgwyddo cyfrifoldebau arbennig yn y cyngor. Mae awdurdodau ledled Cymru yn ceisio galluogi eu haelodau i ateb yr heriau hynny trwy feithrin medrau a gwybodaeth, rhoi cyfleusterau ar gael a chynnig gwasanaethau cymorth.

 

Mae gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) hanes hir o helpu awdurdodau i ddatblygu gweithgareddau o’r fath. I atgyfnerthu’r rhaglen gymorth wladol, fe luniodd WLGA Freinlen Cynorthwyo a Datblygu Cynghorwyr Cymru ar y cyd â chynghorwyr o bob cylch gwleidyddol a swyddogion cynorthwyo aelodau pob awdurdod.

 

Nod y Freinlen yw cynnig fframwaith eang ar gyfer cynllunio, hunanasesu, gweithredu ac adolygu lleol ynghyd â rhwydweithio a chymharu ymhlith awdurdodau a rhannu arferion da ac arloesol. O ganlyniad i’w mabwysiadu’n eang, mae’r cymorth ar gyfer cynghorwyr Cymru wedi cynyddu a gwella.

 

Beth yw’r sefyllfa ar hyn o bryd?

 

Dyma’r awdurdodau sydd wedi ennill y Freinlen a’r Freinlen Uwch.

 

2021

  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro - Lefel Uwch

2019

  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog - Lefel Uwch (Adnewyddu)
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (Adnewyddu)
  • Cyngor Sir Ynys Môn (Adnewyddu)

2018

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (Adnewyddu)
  • Cyngor Gwynedd (Adnewyddu)
  • Cyngor Sir Powys (Adnewyddu)

2016

  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (Adnewyddu)
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili - Gwobr Arloesi ac Arfer Da (Manylion isod)

2015

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (Adnewyddu)
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (Adnewyddu)

2014

  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog - Lefel Uwch (Adnewyddu)
  • Cyngor Sir Powys (Adnewyddu)
  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (Adnewyddu)
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf - Lefel Uwch (Adnewyddu)

2013

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr - Gwobr Arloesi ac Arfer Da (Manylion isod)
  • Cyngor Sir Ynys Môn
  • Awdurdod Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (Adnewyddu)
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf - Gwobr Arloesi ac Arfer Da (Manylion isod)

2012

  • Yn sgîl Mesur ‘Llywodraeth Leol’ Cymru 2011, mae gofynion statudol bellach ynglŷn â llywodraethu corfforaethol a chynorthwyo a datblygu cynghorwyr. Felly, mae meini prawf y Freinlen wedi’u mireinio yn ôl y gofynion hynny.

2011

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog – Lefel Uwch
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (Adnewyddu)
  • Cyngor Sir y Fflint (Adnewyddu)
  • Cyngor Sir Powys
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen

2010

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf – Lefel Uwch
  • Awdurdod Tân ac Achub y De

2009

  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
  • Cyngor Sir Ddinbych
  • Awdurdod Tân ac Achub y Gogledd
  • Cyngor Gwynedd
  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

2008

  • Cyngor Sir y Fflint
  • Awdurdod Tân y Canolbarth a’r Gorllewin
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

2007

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
  • Cyngor Bro Morgannwg

 

Y broses asesu

 

Bydd awdurdodau’n cael ymgeisio am y Freinlen, a’r Freinlen Uwch wedyn. Rhaid adnewyddu'r statws bob tair blynedd ar ôl ei ennill.

 

Ar gyfer y Freinlen, bydd awdurdod yn ei asesu ei hun ac yn cyflwyno’r canlyniadau i WLGA a fydd yn eu hadolygu ac yn pennu'r statws. Diben y Freinlen yw gofalu bod amrywiaeth hanfodol o drefniadau cynorthwyo a datblygu cynghorwyr wedi’u sefydlu.

 

Ar gyfer y Freinlen Uwch, bydd asesu trwy gymheiriaid. Yn rhan o’r asesu, fe fydd rhai swyddogion a chynghorwyr o Gymru a Lloegr yn ymweld â’r awdurdod o dan sylw. Diben y Freinlen Uwch yw gofalu bod y trefniadau oedd wedi’u sefydlu ar gyfer y Freinlen yn gweithio’n effeithiol.

 

Trwy geisiadau ysgrifenedig y byddwn ni’n ailasesu awdurdodau ar gyfer y Freinlen a’r Freinlen Uwch fel ei gilydd.

 

Gwobr am Arferion Da ac Arloesi wrth Gynorthwyo a Datblygu Cynghorwyr

 

Diben y wobr hon yw cydnabod a lledaenu arferion rhagorol neu arloesol ynglŷn â chynorthwyo a datblygu cynghorwyr, er mwyn gwella’r arferion yng Nghymru.

 

Fe fyddwn ni’n asesu ceisiadau am Wobr yr Arferion Da ac Arloesol yn ôl adolygiad o’r dystiolaeth sydd wedi'i chyflwyno i banel o gymheiriaid WLGA.

 

Ar ôl rhoi’r wobr, gwahoddir yr awdurdod i gyflwyno ei waith gerbron Rhwydwaith Cynorthwyo a Datblygu’r Cynghorwyr a Materion y Cynghorwyr Arweiniol. Byddwn ni’n cyhoeddi’r cais ar wefan WLGA .


Mae rhagor o wybodaeth gan: Sarah Titcombe

 


 

 

https://wlga.cymru/wales-charter-for-member-support-and-development-