CLILC

 

Prosiect Meincnodi Gwastraff

Bob blwyddyn, estynnir gwahoddiad ffurfiol i awdurdodau lleol Cymru gyflwyno data ariannol a pherfformiad i’r Prosiect Meincnodi sy’n berthnasol i’r tri maes hyn o ran gwasanaethau gastraff. Mae’r data y gofynnir yn cynnwys:

  • Costau cludiant
  • Costau trin
  • Y math o gynhwysydd a ddefnyddir
  • Nifer y staff rheng flaen
  • Nifer a math o gerbydau a ddefnyddir

Ar ôl i’r data gael ei gasglu, mae’n cael ei ddadansoddi a’i gyflwyno fel:

Mae Papurau Meincnodi WIP yn cyflwyno dadansoddiad a chanfyddiadau allweddol o’r gwaith ymchwil i’r tri maes gwasanaeth hyn ar gyfer ystyriaeth awdurdodau lleol ar gyfer camau gweithredu i wella perfformiad gwasanaeth ac effeithlonrwydd. Mae papurau Meincnodi WIP yn cael eu harchwilio’n fanylach ac ar y cyd gydag awdurdodau lleol yng nghyfarfodydd Grŵp Cymdeithas Syrfëwr y Sir.

Er mwyn ychwanegu at waith y Prosiect Meincnodi:

  • Bydd achlysuron yn cael eu cynnal lle bydd y gwersi a ddysgir mewn perthynas â’r broses feincnodi yn cael eu trafod a bydd enghreifftiau o arferion da cyfredol yn cael eu rhannu. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r achlysuron hyn wedi’u cynnal ar y cyd â Swyddfa Archwilio Cymru a Chymdeithas Syrfëwyr Sirol Cymru.
  • Mae'r  Hyb Meincnodi Ariannol Gwasanaethau Gwastraff lle gellir gosod data ariannol sy’n ymwneud â gwasanaethau gwastraff yng Nghymru.

Mae’r ffaith bod pob un o’r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru wedi cymryd rhan yn y Prosiect Meincnodi, ac o ystyried bod llawer o’r rhain eisoes wedi gweithredu neu wrthi’n gweithredu argymhellion y Prosiect, yn debygol o fod wedi cynorthwyo gyda’r cynnydd yn gyffredinol yn y meysydd gwasanaeth gwastraff uchod. Mae hyn hefyd yn cael ei bwysleisio yn Adroddiad diweddaraf Prosiect Cyllid WIP


Mae rhagor o wybodaeth gan: Barry Williams

https://wlga.cymru/waste-benchmarking-project