CLILC

 

Llywodraeth Cymru

Llywodraeth Cymru yw’r llywodraeth genedlaethol i Gymru, ac yn cynnwys y Prif Weinidog, Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol. Cânt eu cefnogi gan weision sifil sy’n gweithio ar draws feysydd datganoledig gan gynnwys meysydd allweddol o fywyd cyhoeddus megis iechyd, addysg a'r amgylchedd. Maen nhw’n gwneud penderfyniadau ar faterion sy’n ymwneud â’r meysydd hyn i Gymru gyfan.

 

Rôl Llywodraeth Cymru yw: 

  • datblygu polisïau a’u rhoi ar waith 
  • cynnig cyfreithiau Cymreig (Biliau Senedd) 

 

Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am feysydd gan gynnwys llywodraeth leol, addysg, iechyd, trafnidiaeth, cynllunio, datblygiad economaidd, gwasanaethau cymdeithasol, diwylliant, yr iaith Gymraeg, yr amgylchedd ac amaethyddiaeth a materion gwledig.

 

Mae partneriaeth a pherthynas y cynghorau lleol â Llywodraeth Cymru wedi’u ffurfioli’n statudol trwy Gynllun Partneriaeth Llywodraeth Leol a Chynllun Partneriaeth Cymru yn ogystal â phwyllgorau’r cyrff hynny megis yr Is-gylch Ariannol.

 

Bydd arweinyddion a llefarwyr gwleidyddol WLGA yn cwrdd yn aml a gweinidogion Llywodraeth Cymru a bydd y rheiny, yn eu tro, yn cwrdd ag arweinyddion y 22 awdurdod lleol yn aml trwy Bwrdd Gweithredu neu Gyngor WLGA. Ar ben hynny, bydd swyddogion WLGA yn cwrdd yn aml â gweision sifil, yn cymryd rhan mewn gweithgorau ac yn cynrychioli byd llywodraeth leol yn yr amryw bwyllgorau mae gweinidogion wedi’u sefydlu.

 

Mae WLGA yn cydweithio â Llywodraeth Cymru i ofalu y bydd Dyraniad Ariannol Llywodraeth Leol yn gweddu i anghenion gwasanaethau cyhoeddus. Mae WLGA yn helpu Is-gylch y Dosbarthu i ofalu bod anghenion ein cymunedau amryfal wedi’u cymryd i ystyriaeth. Hoffai WLGA ddylanwadu ar bolisïau a deddfau sy’n effeithio ar gymunedau neu wasanaethau lleol. Lle mae blaenoriaethau maes llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru yn cyd-fynd, llunnir polisïau a deddfau ar y cyd pan fo’n bosibl. Bydd WLGA yn ymateb ar ran byd llywodraeth leol i bob ymgynghori o bwys gan Lywodraeth Cymru.


 

https://wlga.cymru/welsh-government