Arweinyddion y 22 awdurdod lleol yw aelodau Bwrdd Gweithredu CLlLC, ynghyd â chynrychiolydd yr aelodau cyswllt (heb hawl i bleidleisio). Dyma brif fforwm polisïau a phenderfyniadau WLGA, gan drin a thrafod materion sy’n berthnasol i Gymru gyfan. Mae’r bwrdd yn atebol i Gyngor CLlLC.
Cytunodd Cyngor CLlLC i newid y cyfansoddiad fis Mawrth 2017 ac, o ganlyniad, sefydlwyd bwrdd gweithredu yn lle pwyllgor cydlynu. Mae modd gweld manylion cyfarfodydd Pwyllgor Cydlynu CLlLC trwy’r dolenni isod.