Rhaglen Gwelliant CLlLC

Nod cyffredinol y rhaglen ar gyfer 2023-24 yw ‘datblygu ymhellach gan greu cefnogaeth ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd, cyfranogiad a galluogrwydd digidol a data i sicrhau bod pob cyngor yn ymgysylltu ac yn cynnwys eu dinasyddion sydd â hyder yn eu perfformiad’.

 

Mae Rhaglen Wella CLlLC 2023-24 yn adeiladu ar y gwaith a wnaed dros ddwy flynedd ddiwethaf y rhaglen ac mae wedi’i llywio gan ymgysylltu â chynghorau, canfyddiadau adroddiadau Archwilio Cymru a Rheoleiddwyr, ymgysylltu â Llywodraeth Cymru, a blaenoriaethau gwella hunanasesiad cynghorau, a amlygodd y themâu corfforaethol cyfunol canlynol:

  • Cydraddoldeb
  • Craffu
  • Diwylliant Data
  • Rheoli Risg
  • Ymgysylltu â’r Cyhoedd a Chyfranogiad
  • Gwydnwch Diwylliant Sefydliadol a Chymunedol
  • Cynllunio’r Gweithlu
  • Rheoli Galw a Gallu

 

Mae Rhaglen Wella CLlLC wedi ei chymeradwyo gan arweinwyr a’i chefnogi gan brif weithredwyr.

 

Mae’r rhaglen wella yn ystod 2023-24 yn cynnwys dwy elfen:

 

  1. cynnig cyffredinol ar gael i bob Cyngor - yn canolbwyntio ar adeiladu capasiti corfforaethol cryf a galluogrwydd gyda chynghorau o dan bedwar blaenoriaeth cyd-ddibynnol:
  1. cynnig wedi’i dargedu ar gyfer y cynghorau hynny sydd angen cymorth mwy dwys a phenodol i fynd i’r afael â bygythiadau corfforaethol sy’n codi.

Am fwy o wybodaeth am unrhyw gymorth, cysylltwch â Thîm Gwella CLlLC:

Gwelliant@wlga.gov.uk

 

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30