CLILC

 

Llongyfarch disgyblion TGAU ar ddiwrnod eu canlyniadau

  • RSS
Dydd Iau, 12 Awst 2021 Categorïau: Newyddion
Dydd Iau, 12 Awst 2021

Heddiw mae CLlLC wedi llongyfarch disgyblion ar hyd a lled y wlad sy’n derbyn eu canlyniadau TGAU, a hynny ar ôl blwyddyn anodd arall i ddysgwyr. 

Meddai’r Cyng. Ian Roberts (Sir y Fflint), Llefarydd Addysg CLlLC: “Mae dyfalbarhad y disgyblion ar ôl blwyddyn galed arall wedi talu ar ei ganfed heddiw, a hoffaf longyfarch bob un am eu llwyddiant a’u gwaith caled. 

“Mae teuluoedd, athrawon a staff ysgol oll wedi cyfrannu at gefnogi disgyblion yn ystod y cyfnod anodd hwn. Fe ddylen nhw hefyd ymfalchïo yn eu llwyddiant, a diolchaf iddyn nhw am eu gwaith caled.”

http://wlga.cymru/gcse-pupils-congratulated-on-the-day-of-their-results