Annog pobl LHDTC+ i sefyll fel cynghorwyr

Dydd Mawrth, 29 Mehefin 2021

Dros fis Balchder, mae CLlLC yn annog mwy o bobl LHDTC+ i sefyll fel ymgeiswyr yn etholiadau lleol 2022.

 

Mae angen i lywodraeth leol gynrychioli’r cymunedau mae’n eu gwasanaethu, ac mae cynghorau’n gweithio i gael cynrychiolaeth fwy amrywiol o ymgeiswyr yn yr etholiad ar gyfer cynghorwyr y flwyddyn nesaf.

 

Mae CLlLC eisoes wedi ymrwymo i raglen uchelgeisiol Amrywiaeth mewn Democratiaeth i sicrhau bod siambrau cynghorau’n cynrychioli eu cymunedau’n well ar ôl yr etholiadau lleol ym mis Mai 2022. Mae hyn yn cynnwys annog pob plaid wleidyddol, trwy Grwpiau Gwleidyddol CLlLC, i ymrwymo i fynd ati i weithredu a chydlynu gweithgareddau i wella amrywiaeth yn nemocratiaeth llywodraeth leol ac annog cynghorau i wneud Datganiadau Amrywiaeth. Bydd hyn yn ymrwymiad cyhoeddus, eglur i wella amrywiaeth a bod yn enghraifft o ddiwylliant sy’n agored ac yn croesawu pawb.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd (Casnewydd), Llefarydd CLlLC ar Gydraddoldeb:

 

 “Mae mis Balchder yn gyfle i ddathlu cynnydd cymdeithas tuag at gydraddoldeb i bobl LHDTC+, ond mae hefyd yn ein hatgoffa o’r gwaith sydd eto i’w wneud. I gynghorau, mae hynny’n golygu gweithio tuag at sicrhau bod siambrau cynghorau’n debycach o lawer i’r bobl maent yn eu cynrychioli. Dyna pam ein bod ni, dros fis Balchder, yn annog pobl o’r gymuned LHDTC+ i ystyried sefyll fel ymgeiswyr yn yr etholiadau lleol nesaf yn 2022. Rydyn ni’n gwybod bod y penderfyniadau gorau’n cael eu gwneud pan mae ystod mor eang â phosib’ o leisiau’n cael eu cynrychioli.

 

 “Os ydych chi wedi bod yn rhan o weithredu’n lleol yn y gorffennol ac os hoffech chi wneud gwahaniaeth yn eich cymuned, neu hyd yn oed os nad ydych chi wedi ystyried y peth o’r blaen, beth am sefyll dros yr hyn sy’n bwysig i chi a bod yn gynghorydd lleol? Ewch i https://www.byddwchyngynghorydd.cymru i ddysgu mwy.”

Categorïau: Newyddion

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30