Ein Nod

Un o brif ddibenion WLGA yw hybu democratiaeth leol

Mae WLGA o’r farn y bydd democratiaeth leol yn gofalu bod gwasanaethau’n cael eu cynnal o fewn fframwaith democrataidd ac iddo atebolrwydd lleol ac y dylai pobl sy’n defnyddio amryw wasanaethau cyhoeddus gael dylanwadu gymaint ag y bo modd ar ffyrdd o’u trefnu, eu rheoli a’u hariannu.

Cynghorau lleol yw’r haen lywodraethu agosaf at y rhai sy’n defnyddio gwasanaethau ym mhob bro, ac mae yn y sefyllfa orau i ymateb i’w hanghenion. Llywodraeth Cymru sy’n pennu’r strategaeth o ran gwasanaethau cyhoeddus y wlad, ond y cynghorau lleol sy’n eu cynnig yn ôl amgylchiadau lleol.

Mae trefniadau llywodraethu da yn hanfodol fel y bydd penderfyniadau’n dda ac yn cadw hyder pobl yn y broses ddemocrataidd leol. I lywodraethu’n dda, fe fydd gwir angen arweiniad gwleidyddol a phroffesiynol effeithiol yn ogystal â pharodrwydd i fod yn agored, gweithio ar y cyd a derbyn amheuon trwy hunanasesu a chraffu cadarn.

Yn ei hymdrech i hybu democratiaeth leol, mae WLGA yn ceisio dylanwadu ar bolisïau, trefniadau ariannu a deddfau fel y bydd gan y cynghorau lleol ryddid a hyblygrwydd i benderfynu ar wasanaethau yn ôl anghenion a blaenoriaethau pob bro.  Rydyn ni wedi llunio nifer o ddogfennau i ddylanwadu ar bolisïau Llywodraeth Cymru megis ein maniffesto ni, ‘Atebolrwydd Lleol 2016-21: Cynllun ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru' ac ‘O Blaid Atebolrwydd Lleol’ a gyhoeddwyd yn 2014.

Un o brif ddibenion WLGA yw hyrwyddo safonau llywodraeth leol, hefyd. Mae’n helpu cynghorwyr ac awdurdodau lleol i ddatblygu a chynorthwyo’r aelodau etholedig gan gynnwys llunio canllawiau a chynnal rhaglenni hyfforddi.

At hynny, mae WLGA yn annog pobl o bob lliw a llun i fod yn ymgeiswyr yn etholiadau lleol 2017.  Mae WLGA yn ymwneud â Rhaglen ‘Amrywiaeth mewn Democratiaeth’ ac mae wedi cyhoeddi llawlyfr ar gyfer ymgeiswyr.


Mae rhagor o wybodaeth gan: Daniel Hurford

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni
   Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Tŷ Llywodraeth Leol
Rhodfa Drake
Caerdydd, CF10 4LG

Ffôn : 029 2046 8600
E-bost : enquiry@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30