Adnoddau - Defnydd Tir

 

Teclyn a Chanllawiau Defnydd Tir a Secwestriad Carbon CLlLC 

Mae'r teclyn mapio yn rhan o lyfrgell o setiau data a mapiau i gefnogi cynghorau i ddeall effaith carbon eu mathau o dir a chynefinoedd.


Cronfa Data Asesiad Cymeriad Tirwedd (Sefydliad Tirwedd)

Mae cronfa ddata Asesiad Cymeriad Tirwedd (ACT) yn cynnwys dros 500 o Ardaloedd Cymeriad Tirwedd o raddfa leol i ranbarthol ar draws y DU ac Iwerddon. Datblygwyd yr adnodd sydd ar gael yn agored gyda chefnogaeth Natural England, NatureScot, Cyfoeth Naturiol Cymru, Transport Infrastructure Ireland ac Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon DAERA (NIEA).


Hwb Creu Coedtir (Cyfoeth Naturiol Cymru) 

Cael help i blannu coed a chreu coetir

Adnodd defnyddiol wrth gynllunio creu coetir.


Map Cyfle Coetir 2021 (Llywodraeth Cymru)

Gall y map gefnogi cynghorau wrth ystyried cyfleoedd plannu coetiroedd newydd. Ei nod yw sicrhau bod coed yn cael eu plannu yn y lle iawn er mwyn sicrhau’r manteision mwyaf posibl.


Cadwyni cyflenwi, cynllunio defnydd tir a'r economi gylchol - 2021 (Aelodau LGiU)

Mae’r papur briffio hwn yn archwilio pwysigrwydd deall cadwyni cyflenwi er mwyn integreiddio nodau economi gylchol yn effeithiol â chynllunio defnydd tir a datblygu economaidd.


Ailddefnyddio Mannau ac Adeiladau yn Gynaliadwy a Chylchol - 2020 (Comisiwn Ewropeaidd)

Gall y llawlyfr hwn fod yn arf defnyddiol i osod y sylfeini ar gyfer strategaeth gyffredinol sy’n edrych ar fodel newydd o reoli ailddefnyddio trefol gan ddilyn egwyddorion yr economi gylchol.


Deunyddiau at Dir yn yr Economi Gylchol - 2019 (SEPA)

Mae’r fframwaith hwn yn disgrifio dull SEPA i gymhwyso deunyddiau eilaidd i dir.


 

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30