Adnoddau i gefnogi cynghorau

Sut i ddefnyddio'r adnoddau hyn

 

Ar gyfer pob maes polisi, rydym wedi datblygu cynllun gweithredu, astudiaethau achos a ffeithluniau.

 

Mae'r cynllun gweithredu a'r astudiaethau achos wedi'u cynllunio i gefnogi'r swyddogion sy'n gyfrifol am sefydlu neu reoli datblygiad ymagwedd y cyngor i'r maes hwnnw.

 

Mae cynlluniau gweithredu yn cynnwys manylion am amserlenni gweithredu, rhanddeiliaid allweddol i'w cynnwys, cyd-ddibyniaethau polisi, amcangyfrifon cyllideb, ac effaith ar allyriadau carbon o weithredu cynllun neu bolisi.

 

Mae'r astudiaethau achos yn darparu enghreifftiau o gynghorau eraill ar draws y DU sydd wedi gweithredu'n llwyddiannus, ynghyd â'r amcangyfrifon o fudd carbon pan oedd y wybodaeth hon ar gael.

 

Mae'r ffeithluniau wedi'u cynllunio fel deunydd cefnogol i helpu'r holl staff i ddeall mwy am y 'beth a'r pam' o brosiect, ynghyd â manylion ar sut y gallant gymryd rhan. Gellir golygu'r ffeithluniau gan ddefnyddio meddalwedd priodol i gynnwys manylion penodol am gynlluniau lleol neu gyfarwyddiadau i dudalennau mewnrwyd i staff ddysgu mwy. Mae'r ffont am ddim Poppins (ar gael o Google Fonts) wedi'i ddefnyddio ar gyfer y ffeithluniau.

 

Adnoddau

 

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30