Un o brif rannau rôl strategol yr awdurdodau lleol ym maes tai yw cynllunio ar gyfer tai fforddiadwy yn y fro a cheisio diwallu anghenion y trigolion. I’r diben hwnnw, byddan nhw’n defnyddio amryw ddulliau:
- asesu’n drylwyr farchnadoedd tai lleol, anghenion o ran tai a’r galw am dai
- defnyddio pwerau cynllunio i ofalu bod adeiladwyr tai yn helpu i roi tai preifat fforddiadwy ar gael
- cydweithio â chymdeithasau tai i ofalu bod grant y tai cymdeithasol ac adnoddau eraill yn cael eu gwario i ddatblygu tai cymdeithasol newydd a chynlluniau prynu cartrefi isel eu cost
- strategaethau tai gwag i ofalu bod pob cartref yn cael ei ddefnyddio
- helpu i wella tai preifat trwy fenthyciadau, grantiau a chynlluniau rhyddhau ecwiti
Mae rhagor o wybodaeth gan: Jim McKirdle