Canllawiau i gefnogi cynghorau i annog staff i deithio’n fwy cynaliadwy

Bydd cyflawni sero net, bydd angen gweithredu ar draws yr economi i leihau allyriadau. Mae cynghorau yn chwarae rhan allweddol fel dylanwadwyr a hwyluswyr lleol, a thrwy arwain drwy esiampl yn eu gweithrediadau a’u polisïau eu hunain.

 

Carreg filltir cenedlaethol Cymru yw yn cyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net erbyn 2050, ac mae’r sector cyhoeddus yn gobeithio cyflawni sero net erbyn 2030. Ers 1990, bu lleihad o 35% mewn allyriadau carbon yng Nghymru. Yn 2021, trafnidiaeth oedd yn gyfrifol am 14.9% o’r allyriadau CO2e, sy’n gynnydd o 11.4% o’u cymharu â 1990. Mae hyn yn golygu mai trafnidiaeth yw’r bedwaredd ffynhonnell allyriadau mwyaf yng Nghymru y tu ôl i ynni, busnes ac amaethyddiaeth. Roedd 80% o’r gweithwyr yng Nghymru yn cymudo mewn car yn 2021, sy’n gwneud hyn yn ffynhonnell bwysig o allyriadau carbon i’w thargedu.

 

Gal yr hierarchaeth teithio cynaliadwy fod yn ddefnyddiol ar gyfer annog cyflogeion ac unigolion i ystyried effaith eu teithiau. Po uchaf i fyny’r hierarchaeth, y mwyaf cynaliadwy a gwyrdd yw’r dewis teithio. Yn sgil COVID-19, mae cyfathrebu digidol wedi dod yn ddewis amgen cynaliadwy cyffredin i deithio hefyd, ac mae llawer o fusnesau yn mabwysiadu cartref digidol a gweithio o bell. Gall rhannu trafnidiaeth a rhannu lifft fod yn ddewisiadau datgarboneiddio effeithiol hefyd pan nad yw cerdded, beicio na thrafnidiaeth gyhoeddus yn ddewisiadau dichonadwy.

 

 

Os yw teithio’n ofynnol ar gyfer gweithio, gall ffactorau allyriadau cenedlaethol arwain Awdurdodau Lleol ac unigolion at y dewisiadau trafnidiaeth lleiaf drud-ar-garbon sydd ar gael iddynt. Mae’r graff isod yn dangos y gramau cyfartalog fesul cilometr a deithir fesul person ar wahanol ddulliau teithio (ffigurau 2023). Mae ffactorau allyriadau diweddaredig ar gael yn Government conversion factors for company reporting of greenhouse gas emissions

 

 

Mae’r adnoddau sydd ar gael yma wedi eu dylunio i gefnogi cynghorau Cymru i ddeall manteision a sut i leihau allyriadau carbon o’u teithiau busnes eu hunain a gweithgareddau cymudo y staff.

 

Mae’r adnoddau’n cwmpasu chwe maes allweddol:

 

  1. Rhannu lifft
  2. Seilwaith gwefru cerbydau trydan
  3. Cyfleusterau sy’n gyfeillgar i deithio cynaliadwy
  4. Gweithio o bell
  5. Cymhellion staff
  6. Cymhellion trafnidiaeth cyhoeddus

 

Yn hytrach na mynd i’r afael â phob un o’r meysydd hyn yn unigol, gall fod yn ddarbodus mynd i’r afael â sawl maes ar yr un pryd oherwydd bod gan y meysydd polisi hyn lawer o agweddau sy’n gorgyffwrdd. Cynghorir yn gryf bod cynghorau yn penodi Swyddog Teithio Cynaliadwy, neu’r Tîm Teithio Cynaliadwy i reoli a datblygu’r cymhellion, y polisïau a’r strategaethau teithio cynaliadwy a amlinellir yn yr adnoddau hyn. Cynghorir hefyd fod cynghorau yn cynnal arolwg teithiau staff er mwyn cadarnhau llinell sylfaen datgarboneiddio ac ennill dealltwriaeth fanwl o arferion teithio eu staff. Darperir arolwg teithiau staff enghreifftiol gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni.

 

Bydd strwythur a chyfrifoldebau pob cyngor yn amrywio yn ogystal â’r meysydd polisi mwyaf priodol i’w harchwilio’n lleol. Y cyngor sydd yn y sefyllfa orau i benderfynu ar y dull mwyaf priodol o ddatgarboneiddio allyriadau cymudo y staff a’r fflyd lwyd.

 

Datblygwyd yr adnoddau hyn ar gyfer Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i’w rhannu â chynghorau yn rhan o’i Rhaglen Cefnogi Newid Hinsawdd, a gyllidir gan Lywodraeth Cymru.


 

 

 

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30