‘Bwyd a Hwyl' Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf (SHEP)

‘Cydweithio i hyrwyddo bywyd iach, cefnogi lles cadarnhaol a gwella ymgysylltiad ag addysg a’r ysgol yn ystod gwyliau’r haf.’

 

Beth yw Bwyd a Hwyl?

Mae Bwyd a Hwyl yn rhaglen addysg yn yr ysgol sy’n darparu addysg am fwyd a maeth, gweithgarwch corfforol, sesiynau cyfoethogi a phrydau bwyd iach i blant yn ystod gwyliau’r haf.

 

Gan ddechrau fel cynllun peilot gan Gyngor Caerdydd yn 2015, mae Bwyd a Hwyl wedi datblygu’n rhaglen genedlaethol wedi’i hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru a gaiff ei gweinyddu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC). Yn 2024, bu 205 o ysgolion yn darparu’r rhaglen gan ddarparu mwy na 13,040 o leoedd i blant bob dydd y bu’n rhedeg.

 

Fe fydd CLlLC yn parhau i gyflwyno’r rhaglen drwy weithio’n agos gydag awdurdodau lleol ac asiantaethau partner.

 

 

Beth yw canlyniadau bwriedig Bwyd a Hwyl?

 

Beth yw prif fanteision Bwyd a Hwyl?

  1. Mae’r cynlluniau’n annog plant i fod yn fwy actif dros yr haf
  2. Gwelliannau o ran deietau plant
  3. Gwneud ffrindiau newydd a chael hwyl
  4. Dysgu ac ymgysylltu â’r ysgol
  5. Gwella iechyd a lles rhieni
  6. Rhieni’n dysgu sgiliau newydd
  7. Cynnwys yr holl deulu
  8. Hwyluso cydweithredu rhwng asiantaethau
  9. Gwneud defnydd gwell o gyfleusterau presennol
  10. Annog ymgysylltu â'r gymuned
  11. Cynnig cyflogaeth am dâl a gwirfoddol
  12. Cyfeirio at wasanaethau eraill
  13. Helpu rhieni i dalu costau gwyliau’r ysgol

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Foodandfun@wlga.gov.uk

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30