Mae'r nifer uchaf erioed o aelwydydd yng Nghymru yn byw mewn llety dros dro, gan fod y galw cynyddol am gymorth digartrefedd wedi gyrru gwariant cynghorau i fyny dros 600% dros y degawd diwethaf.
Mae ffigyrau Llywodraeth Cymru yn dangos bod mwy na 10,900 o bobl yn byw mewn llety dros dro ledled Cymru ar hyn o bryd. Er bod nifer y teuluoedd â phlant wedi gostwng ychydig, mae'r galw cyffredinol yn parhau i fod yn uchel, gyda phobl sengl yn ei chael hi'n arbennig o anodd sicrhau tai parhaol.
Mae'r swm o arian y mae cynghorau yn ei wario ar ddelio â digartrefedd hefyd wedi neidio o oddeutu £13 miliwn yn 2016-17 i £101 miliwn yn 2025-26 - cynnydd sydd wedi rhagori ar gyllid llywodraeth leol ymhell ac wedi gorfodi cynghorau i ddargyfeirio arian o wasanaethau hanfodol eraill.
Canfu ymchwil gan Crisis, yn y tair blynedd hyd at fis Gorffennaf 2024, bod cysgu garw bron wedi dyblu, bod nifer yr aelwydydd mewn llety dros dro bron wedi treblu, a bod y defnydd o lety gwely a brecwast wedi codi mwy na phedair gwaith.
Mae CLlLC yn galw am weithredu brys, hirdymor i leihau digartrefedd, gan gynnwys buddsoddiad parhaus mewn tai fforddiadwy a chymdeithasol, mwy o ffocws ar atal, a chyllid tecach i helpu cynghorau i ateb y galw cynyddol.
Dywedodd y Cynghorydd Andrea Williams, Llefarydd CLlLC dros Dai:
"Y tu ôl i bob ystadegyn llym mae cost gudd digartrefedd: y straen ar deuluoedd, gwasanaethau, a chymunedau sy'n tyfu gyda phob angen heb ei ddiwallu.
"Nid mater tai yn unig yw digartrefedd. Mae'n effeithio ar iechyd, addysg a chymunedau. Ni all cynghorau fynd i'r afael â'r sefyllfa hon ar eu pennau eu hunain. Heb gyllid cynaliadwy, rydym yn cael ein gorfodi i ddargyfeirio adnoddau o wasanaethau lleol hanfodol eraill.
"Mae'r uchelgais a osodwyd gan Fil Digartrefedd nodedig Llywodraeth Cymru i'w groesawu. Ffocws ar atal a dull dan arweiniad tai, ynghyd â chyllid a buddsoddiad hirdymor, fydd yr unig ffordd i wireddu'r nodau hynny.
"Yn y dyfodol, mae cynghorau eisiau parhau i gefnogi teuluoedd i gadw to dros eu pennau. Dyna pam mae angen atebion brys, hirdymor arnom i gwrdd â'r galw enfawr. Mae hyn yn cynnwys mwy o gyllid, buddsoddiad mewn tai fforddiadwy a chymdeithasol, a gwell cefnogaeth i bobl sengl yn ogystal â theuluoedd."