CLILC

 

CLlLC yn llongyfarch dysgwyr ar ddiwrnod canlyniadau TGAU

  • RSS
Dydd Iau, 23 Awst 2018 Categorïau: Dysgu gydol oes Newyddion
Dydd Iau, 23 Awst 2018

Mae CLlLC wedi llongyfarch dysgwyr heddiw sy’n derbyn eu canlyniadau TGAU a Bagloriaeth Cymru yn ystod yr ail flwyddyn o newid mawr i’r cymwysterau.

Cynyddodd y nifer o ddysgwyr a gyflawnodd raddau A*-A o 17.9% i 18.5% eleni, ac enillodd 61.6% o’r holl ddysgwyr raddau A*-C. Cyflawnodd 92.8% o’r holl ddysgwyr Dystysgrif Her Sgiliau fel rhan o gymhwyster Bagloriaeth Cymru, sydd yn gynnydd o 5.1 pwynt canran ar ganlyniadau y llynedd.

Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae’r cymhwyster TGAU yn cael ei drawsnewid gan Lywodraeth Cymru gyda newidiadau eang yn cael eu cyflwyno ar draws nifer o bynciau, a hynny’n cael ei adlewyrchu eleni yn y canlyniadau a phatrymau cofrestru. Bydd dadansoddiad pellach yn cymryd lle yn y dyddiau i ddod.

 

Dywedodd Llefarydd CLlLC dros Addysg, y Cynghorydd Debbie Wilcox (Casnewydd):

“Hoffwn longyfarch ymdrechion a gwaith caled ein holl ddysgwyr, sydd wedi eu harwain at heddiw. Yn gyn athrawes fy hun, rwy’n gwybod bod rhieni, athrawon, ffrindiau a staff ysgolion ar draws Cymru yn chwarae rôl allweddol yn llwyddiant ein dysgwyr, a hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu cefnogaeth ddiflino.”

“Golyga’r newidiadau i’r cymwysterau ei bod yn anodd i lunio casgliadau pendant o’r canlyniadau eleni. Byddwn yn parhau i gydweithio â chydweithwyr ar bob lefel yn y gyfundrefn addysg i sicrhau bod y diwygiadau i’r cymwysterau yn cael eu cyflwyno yn llwyddiannus yn ystod y cyfnod estynedig yma o newid.”

 

http://wlga.cymru/learners-congratulated-by-WLGA-on-GCSE-results-day