CLILC

 

Adolygiad Gwariant: Mae angen buddsoddiad hirdymor mewn gwasanaethau lleol o hyd, meddai cynghorau Cymru

  • RSS
Dydd Mercher, 11 Mehefin 2025 Categorïau: Cyllid ac adnoddau
Dydd Mercher, 11 Mehefin 2025

Mae cynghorau Cymru wedi ymateb i'r Adolygiad Gwariant heddiw drwy rybuddio bod buddsoddiad parhaus mewn gwasanaethau lleol yn parhau i fod yn hanfodol i sicrhau twf economaidd a chefnogi cymunedau.

Mewn llythyr at y Canghellor a'r Prif Ysgrifennydd cyn yr adolygiad, anogodd arweinwyr grwpiau gwleidyddol CLlLC a Llefarydd ar Gyllid Llywodraeth y DU i gydnabod rôl ganolog gwasanaethau lleol wrth gyflawni twf - o ysgolion a gofal cymdeithasol i gefnogaeth busnes a thrafnidiaeth - ac i ddarparu'r cyllid a'r hyblygrwydd sydd eu hangen i sicrhau eu dyfodol.

Er bod cyhoeddiadau Llywodraeth y DU yn cynnwys buddsoddiad sylweddol mewn trafnidiaeth ranbarthol Lloegr, mae arweinwyr llywodraeth leol Cymru yn galw am fuddsoddiad teg yn seilwaith rheilffyrdd Cymru a chanlyniadau Barnett llawn o brosiectau cyfalaf mawr. Mae gwariant cynghorau lleol ar ffyrdd a gwasanaethau bysiau wedi gostwng mewn termau real ers dros ddegawd, gan gyfyngu ar fynediad pobl i waith, addysg a gwasanaethau.

Mae cynghorau hefyd wedi croesawu cynnydd ar symleiddio ac integreiddio ffrydiau cyllido ledled y DU ac yn parhau i gefnogi mwy o hyblygrwydd cyllidol i Lywodraeth Cymru, yn enwedig o ran benthyca a chronfeydd wrth gefn. Mae arweinwyr yn dadlau bod cyllid aml-flwyddyn a llai o botiau cyllido cystadleuol yn hanfodol i alluogi cynllunio buddsoddi hirdymor ac i gynnal gwasanaethau lleol hanfodol.

Mae nhw hefyd wedi croesawu cadarnhad bod disgwyl i lefelau cyllid ar gyfer ymyriadau gan gynnwys cydlyniant cymunedol, adfywio a gwella'r maes cyhoeddus aros yr un fath mewn termau arian parod ag o dan y Cronfa Ffyniant Gyffredin yn 2025/26, er eu bod yn nodi, er gwaethaf ymrwymiadau cyn Brexit, fod y rhain yn sylweddol is nag a dderbyniwyd o dan raglenni blaenorol yr UE. Bydd angen i Arweinwyr y Cyngor nawr weithio trwy'r manylion gydag Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ac maent yn awyddus i ymgysylltu â'r ddwy lywodraeth cyn gynted â phosibl.

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU hefyd y bydd £118 miliwn o gyllid yn cael ei ddarparu dros dair blynedd i gefnogi diogelwch tipiau glo yng Nghymru - ymrwymiad sydd wedi cael ei groesawu gan gynghorau fel cam pwysig wrth fynd i'r afael â'r etifeddiaeth hirsefydlog hon.

Er gwaethaf cynlluniau buddsoddi seilwaith y llywodraeth, mae CLlLC yn rhybuddio na all gwariant cyfalaf ar ei ben ei hun ddisodli'r cyllid refeniw craidd y mae cynghorau'n dibynnu arno i redeg gwasanaethau bob dydd.

Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, llefarydd ar Gyllid CLlLC:

"Mae'n dda gweld yr Adolygiad Gwariant hwn yn cynnwys buddsoddiad mewn pethau sy'n bwysig i bobl - fel seilwaith rheilffyrdd, sy'n helpu i gysylltu cymunedau ac yn creu cyfleoedd newydd. Gyda'r gefnogaeth gywir ar waith, gall cynghorau yng Nghymru wneud hyd yn oed mwy i ddarparu'r gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnynt ac yn helpu i sbarduno twf lleol.

"Rydym hefyd yn croesawu'r symudiad tuag at gyllid tymor hwy a mwy hyblyg. Mae hynny'n rhoi'r sicrwydd sydd ei angen arnom i gynllunio ymlaen llaw a gwneud y gorau o bob punt."

"Rydym yn croesawu'r arwyddion o ymagwedd fwy cydweithredol a chydnabyddiaeth o bwysigrwydd gwasanaethau cyhoeddus. Gwnaeth cyllidebau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y llynedd wahaniaeth gwirioneddol i wasanaethau lleol, o ysgolion i wasanaethau gofal cymdeithasol ac amgylcheddol. Rydym am barhau â'r cyfeiriad cadarnhaol hwnnw drwy weithio mewn partneriaeth â'r ddwy lywodraeth i droi blaenoriaethau a rennir yn ganlyniadau diriaethol i bobl ledled Cymru."

 

DIWEDD –

http://wlga.cymru/spending-review-long-term-investment-still-needed-in-local-services-say-welsh-councils