Wrth ymateb i Gyllideb yr Hydref Llywodraeth y DU, dywedodd Arweinydd CLlLC, y Cynghorydd Andrew Morgan OBE:
“Mae Cyllideb heddiw yn dangos cydnabyddiaeth gadarnhaol o bwysigrwydd tegwch a gwasanaethau cyhoeddus cryf. Mae dod â’r cap budd-dal dau blentyn i ben yn gam sylweddol ymlaen a fydd yn helpu miloedd o deuluoedd ac yn mynd i’r afael â thlodi plant. Bydd cynghorau hefyd yn croesawu’r £500 miliwn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, ochr yn ochr â’r £5 biliwn sydd eisoes wedi’i gyhoeddi.
“Mae’r hyblygrwydd cyllidol newydd i Gymru yn ddatblygiad pwysig, gan roi mwy o allu i Lywodraeth Cymru gynllunio a buddsoddi’n gynaliadwy, a fydd o fudd i wasanaethau lleol sydd dan bwysau difrifol.
“Er bod y setliad llywodraeth leol dros dro, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yr wythnos hon, yn darparu rhywfaint o sicrwydd i gyllidebau cynghorau, nid yw’n agos at fynd i’r afael â’r bwlch o £560 miliwn sy’n wynebu gwasanaethau lleol.
“Edrychwn ymlaen at weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y cyllid hwn yn gwella’r setliad dros dro ac yn cefnogi’r gwasanaethau hanfodol y mae ein cymunedau’n dibynnu arnynt.”