Mae Trosolwg a Chraffu yn elfen allweddol o lywodraethu o fewn Cyngor. Mae craffu llwyddiannus yn sicrhau y gwneir y penderfyniadau gorau yn y modd gorau ar gyfer pobl leol. Bydd Cynghorau’n dymuno sicrhau bod eu swyddogaeth graffu yn effeithiol a bod eu hadnoddau’n cael eu cyfeirio i’r man lle y gellir gwneud y gwahaniaeth mwyaf.
Mae Cynghorau yng Nghymru wedi gweithio gyda CLlLC i lunio fframwaith a rennir i gynorthwyo er mwyn hunanasesu’r swyddogaeth graffu leol, cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Pwrpas y fframwaith
Bwriad y fframwaith yw:
- helpu Cynghorau i werthuso effeithiolrwydd eu swyddogaeth graffu
- cefnogi gwelliant parhaus y broses graffu
- annog dysgu a rennir ac arfer da