Dyddiad Cau: Dydd Llun 26 Mai 2025
Dyddiad Cyfweliad: Dydd Gwener 13 Mehefin 2025
Cyflog: Gradd Chief Officer (CO1 – CO3) £78,963.00 - £82,963.00
Tymor: Llawn Amser - Parhaol
Swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol: Ydi
Cymraeg yn hanfodol: Dymunol yn unig ar gyfer y rôl hon
Ynglŷn â’r Swydd
Bydd deiliad y swydd hon yn aelod o Uwch Dîm Rheoli CLlLC, ac mae’n rôl allweddol o ran darparu arweinyddiaeth strategol ar drefniadau llywodraethu corfforaethol a materion a datblygiadau cysylltiedig â pholisi corfforaethol, a hwythau’n effeithio ar lywodraeth leol a’r Gymdeithas. Bydd deiliad y swydd yn gweithio’n agos ag arweinwyr Cynghorau, aelodau etholedig ac uwch swyddogion, partneriaid a budd-ddeiliaid, i ddylanwadu ar ddatblygiad polisi a helpu i lunio cynlluniau gweithredu. Mae hyn yn cynnwys rheoli’r berthynas strategol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Leol (drwy’r Cytundeb Partneriaeth sydd i’w ddatblygu), ac arwain ar drefniadau llywodraethu corfforaethol mewn Cynghorau, etholiadau a diwygio etholiadol, gwarineb mewn bywyd cyhoeddus, lwfansau aelodau ac amrywiaeth mewn democratiaeth.
Bydd deiliad y swydd yn darparu arweiniad a chyfeiriad strategol yn ddyddiol ar faterion o fewn cylch gwaith y swydd ac a amlinellir yn Strategaeth Gorfforaethol a Chynllun Corfforaethol CLlLC, gan weithio’n agos ag arweinwyr ac uwch gydweithwyr mewn Cynghorau a chyrff cyhoeddus eraill ar draws Cymru, gan gynnwys academyddion a melinau trafod ac wrth reoli staff.
Mae yna agweddau mewnol i’r rôl hefyd, a bydd deiliad y swydd yn gweithio â’r Prif Weithredwr a’r Dirprwy Brif Weithredwr er mwyn sicrhau bod trefniadau llywodraethu CLlLC yn cael eu gweithredu’n effeithiol, ac yn sicrhau bod y Cyfansoddiad yn cael ei gyflwyno’n llawn, yn cael ei adolygu’n rheolaidd ac yn cael ei ddiweddaru yn ôl yr angen. Bydd deiliad y swydd hefyd yn goruchwylio rhai gwasanaethau corfforaethol a chefnogi megis cyfathrebu CLlLC, gan gysylltu â’r Tîm Gwelliant er mwyn cefnogi gwelliant parhaus, a byddant hefyd yn gweithredu fel arweinydd yr Uwch Dîm Rheoli ar gyfer y polisi cydraddoldeb ac arferion mewnol, rheolaeth a threfniadau llywodraethu da ar draws Cynghorau, fel y bo’n briodol.
Gwnewch gais Rŵan!
I gael sgwrs gychwynnol ynglŷn â’r swydd a’r sefydliad, cysylltwch â Naomi Alleyne, Dirprwy Brif Weithredwr a Cyfarwyddwr Corfforaethol (Polisi) ar 07770958639
I wneud cais, anfonwch ffurflen gais wedi'i chwblhau erbyn y dyddiad cau, Dydd Llun 26 Mai 2025 i: recruitment@wlga.gov.uk
Gwahoddir ymgeiswyr ar y rhestr fer i gyfweld panel dethol wyneb yn wyneb ar Dydd Gwener 13 Mehefin 2025 .
Bydd gofyn i ymgeiswyr ar y rhestr fer gwblhau tasg cyn bod yn bresennol yn y cyfarfod, yn ogystal â thasgau cyn cyfweliad ar y diwrnod, wedi’i ddilyn gan gyfweliad gyda phanel dethol.
Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o hunaniaeth a chymhwysedd i weithio yn y DU.