Mae CLlLC yn lle cyffrous i weithio. Mae CLlLC wrthi'n adolygu ei swyddfeydd gyda'r bwriad o gadw swyddfa yng Nghaerdydd gyda mwy o waith cartref o fis Medi 2021. Ar hyn o bryd, mae CLlLC wedi'i leoli yng Nglanfa'r Iwerydd, Bae Caerdydd, ac mae ein swyddfeydd yn hygyrch ac mewn lleoliad cyfleus ymhlith hen rwydwaith camlas Bae Caerdydd, o fewn pellter cerdded i Fae Caerdydd a Chanol Dinas Caerdydd; Caerdydd yw un o'r dinasoedd mwyaf amrywiol, ffyniannus a bywiog yn y DU. Rydym yn ceisio cynnig amgylchedd gwaith cyfeillgar, cefnogol a hyblyg i staff ac mae gan staff hawl i amrywiaeth o fudd-daliadau, gan gynnwys: 1. Codiadau cyflog cynyddrannol a chynllun pensiwn llywodraeth leol cyfrannol 2. 27 diwrnod o wyliau blynyddol, gan godi i 30 ar ôl 3 blynedd ac yna codi i 33 ar ôl 8 mlynedd o wasanaeth, ynghyd ag 8 diwrnod o wyliau banc 3. Polisi gweithio hyblyg sy'n cwmpasu Flexitime, gweithio hyblyg gan gynnwys opsiynau i weithio gartref. 4. Cynllun beicio i'r gwaith, cyfleusterau benthyciadau teithio 5. Amrywiaeth o bolisïau cefnogol, gan gynnwys seibiannau gyrfa, rhannu swyddi, cynllun prynu gwyliau a threfniadau gwyliau eraill. 6. Mamolaeth hael, mabwysiadu, tadolaeth ac absenoldeb rhiant a rennir 7. Swyddfa wedi'i lleoli'n ganolog yng nghanol un o ddinasoedd mwyaf bywiog y DU